Dygymod â Nadolig heb anwyliaid yn anodd

  • Cyhoeddwyd
Eifion, Nia a'r plantFfynhonnell y llun, LLUN TEULU

Mae'r gwyliau Nadolig yn straen i bobl sy'n dygymod â phrofedigaeth, ond i Nia Gwyndaf a'i phlant ifanc mae'r ddeufis blaenorol yr un mor anodd.

Ar 22 Hydref yn 2016 y bu farw ei gŵr, Eifion Gwynne, yn 41 oed, ar ôl cael ei daro gan gar yn Sbaen ar ôl mynd yno ar gyfer angladd hen ffrind.

24 Hydref oedd diwrnod ei ben-blwydd.

Does dim rhyfedd felly bod yr wythnosau rhwng diwedd Hydref a diwedd y dathlu Nadoligaidd â'r potensial i fod yn rhai tywyll i Nia ac i Mabli, Modlen ac Idris, oedd yn 11, naw a phump oed pan fu farw eu tad.

'Cadair wag'

Roedd Eifion yn drydanwr adnabyddus, yn gyn-chwaraewr rygbi gydag Aberystwyth a Llanymddyfri ac roedd yna gannoedd yn ei angladd,

Fe dreuliodd ddwy ochor y teulu eu Nadolig cyntaf hebddo gyda'i gilydd yng ngwesty'r Hafod ym Mhontarfynach.

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU

Brawd Eifion, Dewi, sy'n cadw'r gwesty gyda'i wraig, Nicole.

"Oedd o'n hyfryd achos oeddan ni gyd efo'n gilydd," meddai Nia, "ond hefyd oedd o'n ryw fath o distraction i'r plant, mewn ffordd, bod nhw ddim adre a cadair wag wrth y bwrdd."

"Yn 2017, fe aethon ni i ddathlu pen-blwydd Eifion mewn bwyty lleol, fi a'r tri o blant... oedd o'n fwrdd i bump a dim ond pedwar ohonon ni oedd yna.. roedd o'n disaster llwyr.

"Eleni, 'dan ni'n mynd i fod adra yn Aberystwyth. Ma'n rhieni i yn dod i fyny o Gaerdydd, a ma' mrawd a'i gariad yn dod i fyny hefyd - ac mae'r plant yn edrych ymlaen at y Nadolig."

'Cyfnod anodd'

Mae'n amlwg na fedar pethau fyth fod r'un fath i'r teulu wedi'r fath golled, ond mae newidiadau bach i'r drefn arferol yn gallu bod yn help.

Fe fyddai un o'r traddodiadau newydd o bosib wedi plesio Eifion.

"Oedd o wastad eisiau coeden iawn ond oedd ginnon ni un plastig oedd yn dod lawr o'r atig bob blwyddyn," meddai Nia.

"A'r flwyddyn gynta' ddaethon ni'r bocs ma i lawr a dwi'n cofio agor y bocs a meddwl, 'waw - Eifion nath tapio'r bocs yna' ac o'n i ddim rili isio agor y tâp. Ond dyna ni, fe rothon ni'r goeden i fyny.

"Wedyn y llynedd naethon ni benderfynu 'dan ni'n mynd i gael coeden iawn'. A 'dan ni wedi neud 'leni a llynedd a ma'r plant wrth eu bodda'.

"Ac maen nhw'n edrych ymlaen, er bod hi'n gyfnod anodd i ni gyd."

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU

Mae Nia'n cydnabod bod llawer o ddyddiau tywyll wedi bod ers ymweliad tyngedfennol dau swyddog heddlu â'r chartref - noson mae hi'n ei chofio "fel bod hi'n ddoe" - i dorri'r newydd am y ddamwain a laddodd ei gŵr.

Roedd y dyddiau cynnar mor "llawn gwacter" nes ei bod yn mynd yn syth yn ôl i'w gwely ar ôl danfon y plant i'r ysgol a gosod y lawr i'w deffro mewn pryd i'w casglu ddiwedd y p'nawn.

"Esh i'r doctor, dwi ar dabledi achos mae'n rhaid i ti gario 'mlaen - a maen rhaid i mi ddangos i'r plant bod ni'n gallu gwneud.

"A dan ni di bod ar ein gwylia - fuon ni'n aros efo chwaer Eifion yn Dubai ychydig yn ôl. Gaethon ni amser bendigedig - tro cynta i ffwrdd ers i Eif farw.

Mae'n dweud ei bod wedi cael "nerth" o gefnogaeth a charedigrwydd y gymuned, oedd yn amlwg o'r ymateb ar ddiwrnod yr angladd.

"Wyt ti'n sylweddoli faint o lwcus wt ti... faint o gariad oedd gan bobl tuag at Eifion ac aton ni fel teulu."

Mae'r sgwrs lawn i'w chlywed ar raglen Dros Ginio, BBC Radio Cymru ddydd Mawrth 24 Rhagfyr am 12:00.