Beth fydd digwyddiadau chwaraeon mawr 2020?

  • Cyhoeddwyd
rhodri

Fe wnaeth y tîm rygbi ennill y Gamp Lawn a chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd, ac fe wnaeth y garfan pêl-droed gyrraedd yr Euros unwaith eto. Roedd 2019 yn flwyddyn lwyddiannus i dimau chwaraeon Cymru.

Ond mae 2020 hefyd yn argoeli i fod yn flwyddyn o uchafbwyntiau ar y meysydd chwarae. Fe ofynnodd Cymru Fyw i Rhodri Llywelyn, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru, am yr hyn mae'n edrych 'mlaen ato yn y flwyddyn sydd i ddod.

Pan ddaeth Cwpan Rygbi'r Byd i ben, roedd 'na wacter. Dwi'n teimlo'r un peth ar ôl pob cystadleuaeth fawr, debyg. Y sylweddoliad bod pedair blynedd lawn i aros tan i'r cyfan ddigwydd eto.

Diolch byth, mae campau eraill yn dilyn cylchoedd gwahanol.

2022 yw blwyddyn Cwpan Pêl-droed y Byd, Gemau Olympaidd y Gaeaf a Gemau'r Gymanwlad. Bydd rhaid bodloni ar ddeiet o Bencampwriaethau Athletau'r Byd a Chwpan Rygbi XIII y Byd yn 2021. Ond mae deuddeg mis gorau'r 'quadrennium' ar ddechrau.

2020 yw blwyddyn y Gemau Olympaidd a'r Euros, heb anghofio gwledd flynyddol y Chwe Gwlad.

Euro 2020

Erbyn i'r erthygl yma ymddangos bydd y gath mas o'r cwd, yr anrhegion Nadolig wedi eu dosbarthu, a'r ddau grwt yn gwybod ein bod ni'n mynd i Rufain ym mis Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri yn dilyn Cymru yn ystod Euro 2016

Ro'dd y bore hwnnw o reslo gyda gwefan UEFA am docynnau i wylio Yr Eidal a Chymru yn rowndiau terfynol y Bencampwriaeth Bêl-droed Ewropeaidd yn 'stress' llwyr. Gyda phopeth arall yn ei le - yr awyren a'r llety - tocynnau i'r gêm oedd darn ola'r jig-so.

Yn y pen draw, mi wenodd Duwiau'r we arna'i fel ar dîm Ryan Giggs gwblhaodd y rowndiau rhagbrofol gyda dwy fuddugoliaeth gampus yn erbyn Azerbaijan a Hwngari. Yn gwylio'r ymgyrch gyfan o'n seddi ni yn eisteddle'r teuluoedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd doeddwn ni heb ragweld hyn. Mae Cymru'n mynd i'r Euros am yr eildro'n olynol, a galla'i ddim aros i rannu'r profiad gyda'r bechgyn a 'nhad.

Os ydy ambell sylwebydd craff yn gywir wrth ddarogan y bydd carfan Cymru'n gryfach eleni nac yn 2016, mi allai hon fod yn daith fythgofiadwy yr holl ffordd i'r rownd derfynol yn Wembley.

Gemau Olympaidd Tokyo

Los Angeles 1984 yw'r cof cyntaf sydd gen i o'r Gemau Olympaidd. Ro'n i'n llenwi llyfryn bach yn ddyddiol gydag enillwyr yr holl gampau. Dros ugain mlynedd yn ddiweddarach daeth breuddwyd yn wir drwy gael mynd i gemau Beijing, ac yn ddiweddarach Llundain a Rio. Profiadau i selio'r obsesiwn Olympaidd.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri yn mwynhau gorfoledd y dorf yn Rio!

Ar Tokyo fydd llygaid y Byd yn 2020. Pawb am wybod pwy sydd gyflymaf, uchaf a chryfaf - chwedl sylfaenydd y gemau modern Pierre de Coubertin.

Mae'r ateb wedi dod o Gymru sawl tro. Ro'n i'n ddigon ffodus i weld Nicole Cooke a Geraint Thomas yn ennill aur yn 2008; ac yna Owain Doull, Elinor Barker a Jade Jones yn 2016. Bydd 'na gefnogi'r Cymry eto eleni, ond mawredd y Gemau Olympaidd yw bod iddyn nhw fwy na medalau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhodri yn dychmygu bod yn rhan o un o ddigwyddiadau mwyaf y byd chwaraeon - y ras 100m yn y gemau Olympaidd

Bydd gan bob cystadleuydd ei stori. Dyma dair wythnos unigryw pan fod nofiwr anobeithiol fel Eric the Eel yn gallu dod yn arwr rhyngwladol.

Mae gen i hefyd dueddiad o gymryd gormod o ddiddordeb mewn camp ddieithr. 'Handball' oedd hi bedair blynedd yn ôl - mi wnes i fynd mor bell a gweld os oedd tîm yng Nghaerdydd i ymuno ag e. Mae e rhwng dringo a syrffio eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd traethau enwog Rio hefyd yn cael eu defnyddio yn ystod y Gemau Olympaidd

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Yn ôl yr arfer mi fydd y flwyddyn chwaraeon yn dechrau o ddifri gyda'r Chwe Gwlad. Anghofiwch gennin pedr cynta'r gwanwyn neu gân gynnar y gwcw. Y Bencampwriaeth sy'n dynodi bo'r gaeaf llwm ar ben a minnau wedi goroesi Ionawr diflas arall.

Os nad yn ffefrynnau, bydd Cymru'n dechrau fel pencampwyr a deiliaid y Gamp Lawn. Ond mae llawer wedi newid.

Heb amharch i Warren Gatland a gyflawnodd gymaint yn ystod ei ddegawd a mwy yng ngwlad y gân, mae cyffro anghyfarwydd y tro hwn wrth geisio dyfalu pa dôn fydd y prif hyfforddwr newydd yn cael y tîm cenedlaethol i chwarae.

Roedd gan 'Warrenball' ei feirniaid am fod yn rhy geidwadol, ond gallai gormod o 'Pinball' cyffrous fod yn beryglus i Wayne Pivac. Mae ganddo'r dechrau delfrydol gartref yn erbyn Yr Eidal.

Ffynhonnell y llun, Ian Cook - CameraSport
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru a fydd yn cystadlu am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf yn 2020

A nawr bod Cwpan y Byd mas o'r ffordd, bydd digon o drafod y Llewod hefyd. Mi edrycha'i 'mlaen at gychwyn deunaw mis o ddadlau meddwol gyda ffrindiau ynglŷn â'r garfan i deithio De Affrica.

Blwyddyn y Wal Goch

Os mai'r Euros, y Gemau Olympaidd a'r Chwe Gwlad yw'r brics ym mlwyddyn y Wal Goch, bydd ymgais Caerdydd i ennill dyrchafiad, lansiad tîm criced newydd Tân Cymreig, Y Tour de France a'r Cwpan Ryder yn sment rhwng y cyfan yn ein tŷ ni.

Nawr pasiwch y 'remote control'!

Disgrifiad o’r llun,

Y blwch sylwebu yn ystod Euro 2016 - uchafbwynt i ran fwyaf o ddarlledwyr chwaraeon Cymru

Hefyd o ddiddordeb: