Galw am gadw gwasanaeth y galon yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
clefyd y galonFfynhonnell y llun, SPL

Mae yna alwad i roi i sicrwydd i wasanaeth arloesol ar gyfer cleifion y galon yn y gogledd.

Ers 2015 mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ariannu'r gwasanaeth mewn ysbytai cymunedol lle mae nyrsys arbenigol a fferyllwyr yn gofalu am gleifion.

Roedd yn gynllun "gwario er mwyn arbed", ac mae wedi arwain at arbedion i'r bwrdd gan fod llai o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty o ganlyniad.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwadu eu bod yn ceisio dileu'r gwasanaeth, gan ddweud eu bod yn ceisio "sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau ar gael i bobl Gogledd Cymru".

Cafodd y cynllun ei ymestyn am chwe mis wedi i feddygon teulu fynegi pryder am y posibilrwydd o'i ddileu.

Cafodd y penderfyniad ei ddisgrifio fel un "hynod dwp" gan ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ac mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

Mae'r gwasanaeth yn costio tua £430,000 bob blwyddyn, ond mae amcangyfrif ei fod yn arbed o leiaf £1.5m gan fod llai o bobl yn mynd i'r ysbyty.

Siomedig

Dywedodd Mr ap Gwynfor: "Mae'r Bwrdd Iechyd wedi treulio blwyddyn yn methu penderfynu a ddylai barhau i ariannu'r gwasanaeth er gwaetha' tystiolaeth ei fod yn arbed arian a lleihau faint sy'n gorfod mynd i ysbyty.

"Mae adroddiad o 2018 yn dangos bod buddsoddiad o £430,000 y flwyddyn wedi arwain at gwymp o rhwng chwarter a hanner yn nifer y rhai aeth i ysbytai cyffredinol y gogledd oherwydd methiant y galon."

Ychwanegodd ei fod yn siomedig fod gwasanaeth sy'n gwneud yn dda o dan fygythiad a galwodd ar y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething i ymyrryd gan fod y Bwrdd Iechyd o dan fesurau arbennig ac felly o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

"Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru hybu'r cynllun yma, ac mae wedi gwneud gogledd Cymru yn un o'r llefydd gorau i gael triniaeth," meddai.

"Gallai diffyg strategaeth olygu fod y gwaith da yma yn dod i ddim byd.

"Byddai gadael i'r gwasanaeth yma fynd oherwydd diffyg cyllid yn hynod dwp, ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datrys y sefyllfa yn gyflym ac i'r tymor hir."

'Anghywir'

Ond mewn datganiad mae'r bwrdd iechyd wedi gwadu eu bod wedi penderfynu dileu'r gwasanaeth.

"Mae'n gwbl anghywir awgrymu ein bod yn chwilio i dorri cyllid i'r gwasanaeth," medd y datganiad.

"Fe wnaethon ni ofyn i'r gwasanaeth gwblhau achos busnes fyddai'n ystyried gwerthusiad o'r gwasanaeth a'i berfformiad ynghyd â manylion am sut i'w ddyblygu mewn rhannau eraill o'r gogledd.

"Fel gyda bob cais arall, mae angen i ni werthuso'r buddion er mwyn sicrhau'r defnydd gorau o arian cyhoeddus.

"Doedd y cais am achos busnes ddim am ddileu'r gwasanaeth, ond am sicrhau bod gennym y dull gorau o ddarparu'r gwasanaeth ar draws y gogledd.

"Rydym yn cydnabod gwerth y gwasanaeth ac yn gweithio gyda'r gwasanaeth fel y gallwn, gyda'n gilydd, barhau i sicrhau bod y gwasanaeth ar gael i bobl yng ngogledd Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hwn yn fater o fuddsoddiad i'r bwrdd iechyd.

"Rydym yn disgwyl iddyn nhw fuddsoddi yn y gwasanaethau priodol i ateb galw'r boblogaeth yn lleol iddyn nhw."