Ffrae cyfarwyddwyr Seiont Manor i fynd i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen Newyddion 9 wedi cael cadarnhad y bydd ffrae rhwng cyfarwyddwyr gwesty moethus ger Caernarfon yn cyrraedd yr Uchel Lys yn ddiweddarach y mis yma.
Ers bron deufis, mae nifer o weithwyr Seiont Manor heb dderbyn eu cyflogau.
Ond mae rhai o gyn-gyfarwyddwyr y cwmni sy'n berchen ar y gwesty yn honni bod cofnodion Tŷ'r Cwmnïau wedi cael eu newid yn anghyfreithlon.
Chris Summers oedd prif gogydd gwesty Seiont Manor ger Llanrug, ond mae'n dal i aros am gyflog mis Tachwedd.
Mae wedi gorfod dibynnu ar help ariannol gan ei deulu er mwyn ymdopi dros y Nadolig.
"Mae 'di bod yn really anodd," meddai.
"Mae 'na lot o'r grŵp 'di gorfod visitio foodbanks cwpl o weithiau, lot o'r grŵp wedi gorfod dechrau benefit claims, universal credit."
Mae Mr Summers wedi dod o hyd i waith arall erbyn hyn, ac mae'n disgwyl dechrau yno ganol mis Ionawr.
Wythnos cyn y Nadolig fe ddaeth i'r amlwg bod mwyafrif staff y gwesty yn aros am gyflogau oedd i fod i gael eu talu ar 6 Rhagfyr.
Mae'r gwesty yn parhau ar agor, ac mae rhaglen Newyddion 9 yn deall bod nifer fach o staff wedi bod yn gweithio yn ddi-dâl yno dros y mis diwethaf.
Maen nhw hefyd ar ddeall bod y gwesty wedi talu biliau nwy a booking.com ym mis Rhagfyr, er bod staff yn dal i aros am eu cyflogau.
Yn ogystal â hynny cafodd ciniawau Nadolig eu canslo, gydag un cwsmer yn dweud iddo golli dros £100 mewn blaendal am y cinio hwnnw.
Dyw Tom Hindle, cyfarwyddwr y cwmni sy'n rhedeg y gwesty, ddim wedi ymateb i sawl cais am ymateb ynglŷn â pham bod staff yn dal i aros am eu harian.
Mewn datganiad mae cyfreithwyr ar ran Paul a Rowena Williams, sy' berchen hanner Seiont Manor, wedi cadarnhau y byddan nhw'n mynd i'r Uchel Lys ar 17 Ionawr.
Maen nhw'n honni bod eu henwau wedi cael eu cymryd o gofnodion Tŷ'r Cwmnïau yn anghyfreithlon.
Roedden nhw hefyd yn dweud bod eu hepgor nhw o redeg y gwesty wedi bod yn ergyd ariannol i'r cwmni a staff y gwesty, a'u bod nhw'n cydymdeimlo â'r gweithwyr sydd heb dderbyn eu cyflogau.
Mae Myles Cunliffe, cyfarwyddwr a chyd-berchennog arall y cwmni, hefyd wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019