Gwesty Seiont Manor ger Caernarfon yn cau am y tro
- Cyhoeddwyd
Mae drysau gwesty moethus Seiont Manor yn Llanrug ger Caernarfon wedi cau am y tro yn dilyn ffrae bod nifer o weithwyr ddim wedi derbyn eu cyflogau.
Ond dywedodd rheolwr y gwesty, Michael Scahill, fore Sadwrn ei fod yn gobeithio y bydd y gwesty yn ailagor yn gynnar ym mis Chwefror.
Yn ôl y cynghorydd lleol, Berwyn Parry Jones, mae cau y gwesty yn newyddion trist i bobl yr ardal.
Dywedodd: "Mae'n siom fawr fod y lle 'ma wedi cau yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn - yn syth ar ôl y Nadolig."
Ychwanegodd Mr Jones fod y "gwesty yn bwysig i'r economi leol.
"Maent yn cyflogi 35 o bobl a'r gobaith mawr y bydd yn ailagor yn fuan ac wrth gwrs mae 'na briodasau ac ati wedi'u trefnu yma - mae'n holl bwysig bod y lle yn agor." meddai.
'Talu staff tan y 3ydd'
Mae cyn-weithiwr yn y gwesty wedi dweud ei fod wedi gweld llythyr a gafodd ei anfon at staff gan gwmni Seiont Manor Limited ddydd Gwener.
Roedd y llythyr yn hysbysu y staff o'r bwriad i gau'r gwesty dros dro gan ddweud na fydd disgwyl i staff fynd i'r gwaith tan bod y gwesty yn ailagor.
Roedd y llythyr hefyd yn dweud y byddai staff yn cael eu talu tan y 3ydd o Ionawr ac roedd yn diolch iddynt am eu hymroddiad mewn cyfnod anodd.
Yn gynharach yr wythnos hon cafwyd cadarnhad y bydd y ffrae rhwng cyfarwyddwyr y gwesty ger Caernarfon yn cyrraedd yr Uchel Lys yn ddiweddarach y mis yma.
Ers bron i ddeufis, 'dyw nifer o weithwyr Seiont Manor ddim wedi derbyn eu cyflogau ac mae'r BBC wedi cael ar ddeall bod nifer fach o staff wedi bod yn gweithio yn ddi-dâl yno dros y mis diwethaf.
Mae rhai o gyn-gyfarwyddwyr y cwmni sy'n berchen ar y gwesty yn honni bod cofnodion Tŷ'r Cwmnïau wedi cael eu newid yn anghyfreithlon.
Chris Summers oedd prif gogydd gwesty Seiont Manor ger Llanrug, ond mae'n dal i aros am gyflog mis Tachwedd.
Yn gynharach dywedodd wrth y BBC ei fod wedi gorfod dibynnu ar help ariannol gan ei deulu er mwyn ymdopi dros y Nadolig.
Dywedodd: "Mae 'di bod yn really anodd. Mae 'na lot o'r grŵp 'di gorfod visitio foodbanks cwpl o weithiau, lot o'r grŵp wedi gorfod dechrau benefit claims, universal credit."
Mae Mr Summers wedi dod o hyd i waith arall erbyn hyn, ac mae'n disgwyl dechrau ar ei waith ganol y mis.
Wythnos cyn y Nadolig fe ddaeth i'r amlwg bod mwyafrif staff y gwesty yn aros am gyflogau oedd i fod i gael eu talu ar 6 Rhagfyr.
'Cydymdeimlo a'r gweithwyr'
Dyw Tom Hindle, cyfarwyddwr y cwmni sy'n rhedeg y gwesty, ddim wedi ymateb i sawl cais am ymateb ynglŷn â pham bod staff yn dal i aros am eu harian.
Mewn datganiad ganol yr wythnos fe wnaeth cyfreithwyr ar ran Paul a Rowena Williams, sy' berchen hanner Seiont Manor, gadarnhau y byddan nhw'n mynd i'r Uchel Lys ar 17 Ionawr.
Maen nhw'n honni bod eu henwau wedi cael eu cymryd o gofnodion Tŷ'r Cwmnïau yn anghyfreithlon.
Mae nhw hefyd yn dweud bod eu hepgor nhw o redeg y gwesty wedi bod yn ergyd ariannol i'r cwmni a staff y gwesty, a'u bod nhw'n cydymdeimlo â'r gweithwyr sydd ddim wedi derbyn eu cyflogau.
Yn ystod yr wythnos cafodd Myles Cunliffe, cyfarwyddwr a chyd-berchennog arall y cwmni, gais i ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2019