Dedfrydu Allen am fwy o droseddau rhyw hanesyddol

  • Cyhoeddwyd
John Allen being led into court
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd John Allen ei ddedfrydu yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug ddydd Mercher

Mae cyn-bennaeth cartrefi gofal plant yn y gogledd wedi ei ddedfrydu i 14 a hanner o flynyddoedd am droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn pump o fechgyn ifanc.

Roedd John Allen eisoes wedi ei garcharu am oes yn 2014 am fwy na 30 o droseddau rhyw hanesyddol.

Bydd ei ddedfryd o 14 mlynedd yn cyd-redeg a'i ddedfryd o garchar am oes.

Clywodd y llys fod y dedfrydau diweddaraf yn ymwneud â phum bachgen yn ei ofal, yr ifancaf yn 13 oed.

Fe wnaeth pob un heblaw un o'r dioddefwyr gysylltu â'r awdurdodau ar ôl i Allen gael ei ddedfrydu yn 2014.

Cyn hynny roedd Allen wedi ei garcharu am droseddau tebyg ganol y 90au.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands nad oedd Allen, sy'n 78, wedi dangos unrhyw edifeirwch a bod hynny wedi ychwanegu at y straen oedd ar y dioddefwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Allen ei gartref plant cyntaf, Bryn Alyn yn Llai, ger Wrecsam, yn 1968.

Fis diwethaf yn Llys y Goron yr Wyddgrug penderfynodd rheithgor y cyn-benaneth yn euog o saith achos o ymosodiadau anweddus a throseddau rhyw difrifol yn erbyn y pump.

Fe wnaeth Allen sefydlu cartrefi gofal Bryn Alyn yn ardal Wrecsam nôl yn 1968, ac ar ei anterth roedd gan y sefydliad 11 o unedau yn cynnig cartref i 150 o bobl ifanc o ogledd Cymru a thu hwnt.

Rhwng 1976 a 1992 fe wnaeth nifer ddioddef troseddau rhyw yn eu herbyn.

Cafodd Allen ei arestio fel rhan o ymgyrch Pallial - ymchwiliad annibynnol gan Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i honiadau o gam-drin o ran y system ofal yng ngogledd Cymru.

Mae 13 o bobl wedi cael eu dedfrydu yn sgil ymgyrch Pallial.

Yn ystod y cyfnod fe wnaeth yr ymgyrch dderbyn tystiolaeth gan 375 o bobl.

Er bod ymchwiliad Pallial yn dechrau dirwyn i ben mae swyddogion yn parhau i gynnig cymorth i ddioddefwyr.