Y gêm ddarbi: Caerdydd i 'groesawu' Abertawe ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Bydd dau hen elyn yn mynd benben yn y brifddinas ddydd Sul wrth i Gaerdydd herio Abertawe yn y Bencampwriaeth.
Ond mae'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau ymysg cefnogwyr wedi sbarduno ffrae rhwng dau gomisiynydd yr heddlu yng Nghymru.
Mae Arfon Jones, comisiynydd heddlu a throseddu'r gogledd, yn feirniadol o'r system ddadleuol.
Ond mae wedi ei gyhuddo o "ddefnyddio ei swyddfa i ledaenu gwybodaeth anghywir" gan ei gymar yn ne Cymru, Alun Michael.
Bydd Heddlu De Cymru yn defnyddio'r dechnoleg i adnabod ac atal cefnogwyr sydd wedi'u gwahardd rhag mynychu'r gêm.
I faterion ar y cae, dim ond unwaith mewn 12 gêm mae Caerdydd wedi colli yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Ond mewn record llawer mwy syfrdanol, does yna'r un o'r ddau glwb wedi ennill y ddwy gêm ddarbi mewn un tymor o'r blaen.
Mae rheolwr Abertawe, Steve Cooper wedi annog ei chwaraewyr i greu hanes - ar ôl iddyn nhw ennill y gêm gyfatebol 1-0 yn Stadiwm Liberty ym mis Hydref.
Mae rheolwr Caerdydd, Neil Harris ar y llaw arall yn dweud ei fod wedi gorfod dod â'r sesiwn ymarfer i ben yn gynt na'r arfer ddydd Gwener gan fod y chwaraewyr yn ymarfer yn "rhy galed".
Mae'n ddigon posib y bydd y ddau dîm heb chwaraewyr allweddol ar gyfer y gêm, gyda chwaraewr canol cae Caerdydd, Joe Ralls allan oherwydd anaf i'w law.
Mae amddiffynnwr Abertawe, Mike van der Hoorn yn eisiau i'r ymwelwyr oherwydd anaf i'w ben-glin.
Fel arall, fe all cyn-chwaraewr yr Elyrch, Jazz Richards, wneud ymddangosiad i Gaerdydd, tra bydd y Cymro Cymraeg, Ben Cabango - sydd o'r brifddinas - yn gobeithio chwarae rhan i'r tîm mewn gwyn.
Y mynd a'r dod - a'r aros
Yn ystod yr wythnos fe arwyddodd yr Elyrch ddau chwaraewr ifanc ar fenthyg - yr ymosodwr Rhian Brewster o Lerpwl a'r amddiffynnwr Marc Guehi o Chelsea.
Bu'r ddau yn chwarae o dan reolaeth Cooper pan enillodd Gwpan y Byd Dan-17 gyda Lloegr yn 2017.
Yn y cyfamser, mae'r Adar Gleision wedi rhyddhau'r ymosodwr Gary Madine o'i gytundeb.
Ag yntau wedi costio dros £5m i'r clwb ym mis Ionawr 2018, fe fethodd â chanfod y rhwyd unwaith.
Ond daeth newyddion mwy cadarnhaol gyda'r cyhoeddiad fod Lee Tomlin - sydd wedi bod yn serennu i'r clwb y tymor yma - wedi arwyddo cytundeb newydd gyda'r clwb tan 2022.
Gwrandewch ar raglen Ar y Marc ar BBC Radio Cymru fore Sadwrn am 08:30 neu ar BBC Sounds wrth i'r criw edrych ymlaen i'r ddarbi Gymreig a sgwrsio gyda dau actor o Pobol y Cwm sy'n gefnogwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2020