£16m i adnewyddu Hen Goleg Aberystwyth cyn pen-blwydd yn 150
- Cyhoeddwyd
Mae gobaith y bydd gwaith i ddatblygu Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi ei gwblhau mewn pryd i ddathlu canrif a hanner ers agor ei ddrysau, wedi i £16m gael ei sicrhau tuag at y prosiect.
Mae'r cynlluniau i adnewyddu'r adeilad Gradd I ar y prom yn y dref wedi sicrhau bron i £10m o arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ynghyd â £3m gan Lywodraeth Cymru a £3m o gronfa Ewropeaidd.
Bydd trawsnewid y safle'n ganolfan diwylliant, treftadaeth, darganfyddiadau, dysgu a menter yn "sicrhau ei ddyfodol yn y tymor hir", medd rheolwyr.
Mae datblygwyr yn dweud y gallai'r ganolfan ddenu 190,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, a chreu tua 50 o swyddi newydd.
Ar ben hynny, fe allai "tua 900 o bobl elwa o hyfforddiant mewn treftadaeth, twristiaeth a lletygarwch o ganlyniad i'r ailddatblygiad a bydd rhyw 250 o'r rheiny'n ennill cymwysterau ffurfiol".
Bydd adnoddau'r adeilad ar ei newydd wedd yn cynnwys:
Gofod arddangos ar gyfer arddangosfeydd, celf a cherddorion;
Canolfan i entrepreneuriaid a busnesau a stiwdios artistiaid newydd;
Caffi, bar ac ystafelloedd cymunedol;
Gwesty boutique;
Cyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a gwyliau mawr.
Agorodd yr Hen Goleg ei ddrysau i fyfyrwyr yn 1872 ond roedd "fwy na heb yn ddiangen" wedi i'r brifysgol symud i gampws newydd yn y 1960au.
Cafodd y brifysgol £849,500 cychwynnol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn 2017 er mwyn datblygu'r cynlluniau a chyflwyno cais manwl am bron £10m.
Daeth cadarnhad bod y grant llawn wedi ei ddyfarnu'n derfynol mewn digwyddiad yn yr Hen Goleg ddydd Mawrth.
Tua £27m yw cyfanswm amcan gost holl gynlluniau'r prosiect. Mae'r brifysgol yn chwilio am ffynonellau cyllid eraill ac mae apêl ariannol eisoes wedi codi £1.6m.
Y gobaith yw cwblhau'r adeilad erbyn dathliadau pen-blwydd y brifysgol yn 150 yn 2022/23.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: "Bydd prosiect yr Hen Goleg yn adfer ac yn creu pwrpas newydd i un o adeiladau hanesyddol pwysicaf y genedl ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac yn creu canolfan bwysig ar gyfer diwylliant, dysgu a menter.
Ychwanegodd bod y cyhoeddiad ddydd Mawrth "yn gatalydd arwyddocaol" wrth baratoi at ddathliadau'r 150fed pen-blwydd, parhau i godi arian at gyfanswm terfynol y prosiect, a chreu cynlluniau ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2017