Halaholo: 'Sail hiliol' i feirniadaeth dewis carfan

  • Cyhoeddwyd
Willis HalaholoFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Willis Halaholo â'r Gleision yn 2016

Mae Willis Halaholo wedi dweud ei fod yn credu bod ysgogiad hiliol i rai negeseuon Twitter yn beirniadu'r penderfyniad i'w gynnwys yng ngharfan rygbi Cymru fis Tachwedd y llynedd.

Roedd canolwr y Gleision, a gafodd ei eni yn Seland Newydd, wedi ei ddewis i chwarae i Gymru yn erbyn y Barbariaid cyn i anaf ei orfodi i dynnu'n ôl.

Dywedodd wrth bodlediad Scrum V: "Dydw i ddim yn gwybod os ydy ond yn fater o hil ynteu'r ffordd ydw i, fy mhersonoliaeth. Dydw i ddim yn rhy siŵr.

"Ro'n i wedi gweld rhai sylwadau hiliol."

Mae'r chwaraewr 29 oed, sydd â theulu "enfawr" o Tonga, yn gymwys i gynrychioli Cymru ar ôl pasio'r trothwy o fyw yng Nghymru am dros dair blynedd.

Roedd yn aelod o dîm dan-20 Tonga ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd IRB yn 2009.

'Marciau cwestiwn yn fy achos i'

Dywedodd ei fod yn ei chael hi'n rhyfedd fod chwaraewyr eraill sy'n enedigol o Seland Newydd, ac sy'n gymwys dan yr un amgylchiadau, fel Hadleigh Parkes a Johnny McNicholl, heb wynebu beirniadaeth debyg ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Rydw i wedi gweld dau chwaraewr arall gafodd eu geni yn Seland Newydd yn cael croeso enfawr ac yna mae yna farciau cwestiwn yn fy achos i," meddai.

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Willis Halaholo gael llawdriniaeth wedi'r anaf i'w ben-glin ym mis Tachwedd

"Dydw i ddim yn ceisio tynnu sylw ato. Ar Twitter yn bennaf rwy'n gweld y pethau 'ma - pobl rydw i'n eu dilyn yn brwydro drosta'i yn erbyn y bobl yma.

"Dydw i byth yn mynd ati i chwilio amdano ond pan dwi'n dod ar ei draws, mae'n eithaf digalon."

Fe wnaeth Halaholo ymateb ar un achlysur i'r feirniadaeth ar Twitter ym mis Tachwedd ar ôl derbyn negeseuon yn dweud nad oedd yn haeddu cael ei gynnwys yn y garfan.

"Ro'n i wedi rhyw ddisgwyl [beirniadaeth] oherwydd ro'n i eisoes wedi gweld y peth yn codi stêm," meddai.

"Os ydych chi'n gwrthwynebu'r rheol [y trothwy cyfnod preswyl], mae hynny'n iawn. Does dim ots 'da fi, dyna eich barn - ond mae fel dewis a dethol pwy maen nhw'n meddwl sy'n haeddu [cynrychioli Cymru]."

Cafodd Halaholo anafu i'w ben-glin wrth chwarae i'r Gleision yn erbyn Caerlŷr yng Nghwpan Her Ewrop, dridiau cyn roedd i fod yn y tîm i wynebu'r Barbariaid.

Mae'n gobeithio ailddechrau chwarae erbyn canol Mai. Bydd Cymru ar daith yn Japan a Seland Newydd ym Mehefin a Gorffennaf.