Gwerthu ffermydd cyngor 'yn niweidiol i'r diwydiant'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y bydd niwed yn cael ei wneud i'r diwydiant amaeth ac economi cefn gwlad os bydd cynghorau sir yn parhau i werthu eu stoc o ffermydd.
Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig, fod cynghorau sy'n "gwerthu'r trysorau teuluol" i godi arian yn peryglu dyfodol ffermwyr ifanc sy'n newydd i'r diwydiant.
Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae arwynebedd y tir sydd ym meddiant cynghorau wedi gostwng 10%
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mai'r cam olaf oedd gwerthu ffermydd, ac yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n parhau i gefnogi'r rheiny sydd eisiau dechrau yn y diwydiant.
'Troed ar yr ysgol'
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 'na 963 o ddaliadau yn eiddo i awdurdodau lleol yng Nghymru - mae gan 430 ohonyn nhw dai neu adeiladau ynghlwm.
Mae Phil Dancer, 32, yn ffermwr defaid cenhedlaeth gyntaf a gafodd denantiaeth 12 mlynedd yn ddiweddar i redeg fferm ger Machynlleth.
"Dwi'm yn dod o deulu fferm yn enedigol," meddai. "Mae [fferm cyngor] yn gam da i rywun fel fi ddod mewn i'r maes.
"I gael uned efo'i gilydd, tŷ, buildings - dydy cyfleoedd fel 'na ddim yn dŵad yn aml... mae uned fel hyn yn gwneud hi'n lot hawsach i rywun gael troed ar yr ysgol."
Er bod Powys yn "well" na chynghorau eraill pan mae'n dod at gadw ffermydd cyngor, meddai, mae'n dweud ei fod yn "bechod" fod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried gwerthu safleoedd o'r fath.
"Maen nhw mewn tlodi eu hunain, yn cael gwared o'u assets, ond mae'n gyfle mor wych i bobl ifanc allu dod mewn i'r diwydiant," meddai.
"Pobl ifanc ydy dyfodol y diwydiant, a 'di o'm yn mynd i fod yn hawdd o rŵan ymlaen, ond dwi'n gweld bod pobl ifanc yn gallu bod yn fwy optimistig a gweld dyfodol."
'Llusgo traed'
Yn 2018 fe wnaeth saith awdurdod lleol - Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Merthyr Tudful a Sir Fynwy - godi cyfanswm o £4.2m wrth werthu 184 hectar o dir.
Yn ôl Llyr Gruffydd, sydd yn bwriadu codi'r mater yn y Cynulliad, does dim modd parhau i werthu ffermydd ar yr un gyfradd ag sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Mae dyfodol ffermydd cyngor yng Nghymru yn ganolog i ddyfodol y diwydiant amaeth," meddai AC Gogledd Cymru.
"Dyma un o'r cyfleoedd prin sydd gan bobl ifanc i ddod mewn i'r diwydiant. Mae'n ddiwydiant sy'n heneiddio.
"Cymerwch chi ffwrdd ffermydd cyngor a chi'n cymryd i ffwrdd un o'r elfennau sy'n sylfaen i'r diwydiant yng Nghymru."
Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru wedi "llusgo'u traed yn rhy hir" ar y mater.
"Mae'n ddyletswydd ar y llywodraeth nawr i ddod â phartneriaid at ei gilydd, i ddod â'r cynghorau at y bwrdd, i ddod â'r undebau amaeth, y colegau amaethyddol, y ffermwyr ifanc," meddai.
"Mae 'na gyrff a mudiadau fuasai'n awyddus iawn i weld os allen nhw fod yn chwarae rôl mewn gwneud defnydd o'r ased yma, yn hytrach na dim ond eu gwerthu nhw i ffwrdd."
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Llywodraeth Leol bod cynghorau yn wynebu pwysau ariannol dybryd, a'u bod wedi gorfod gwerthu tir a ffermydd fel dewis olaf yn yr amgylchiadau anodd hynny.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn cydnabod pwysigrwydd ffermydd cyngor.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd yno i'r rheiny sydd eisiau gyrfa mewn amaethyddiaeth, a byddwn yn parhau i weithio gyda chynghorau i gefnogi gwaed newydd yn y diwydiant," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2017
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019