Ateb y Galw: Y Prifardd Gruffudd Owen
- Cyhoeddwyd
Y Prifardd Gruffudd Owen sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Emyr 'Himyrs' Roberts yr wythnos diwethaf.
Gruffudd oedd enillydd Cadair Eisteddfod Caerdydd yn 2018, ac ers mis Medi 2019, mae wedi bod yn ymgymryd â dyletswyddau Bardd Plant Cymru; swydd fydd yn ei dal tan 2021.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio Dad yn newid fy nghlwt i pan o'n i tua dyflwydd, a'r ddau ohonom ni'n deud 'ych a fi!' wrth weld y cynnwys!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Fy athrawes Ysgol Sul. Ond roeddwn i'n bump ac roedd hi'n bymtheg felly doedd o fyth am weithio, nagoedd?!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cystadlu ar yr alaw werin yn yr Eisteddfod Ryng-golegol a methu'n lân â chofio'r alaw i Hen Ferchetan. Ar ôl trio (a methu) deirgwaith i ffeindio'r alaw mi esh i i banic a dechrau gweiddi canu Efo Deio'i Dywyn mewn cywair llawer rhy isel. Roedd pobl yn dod ata i bwyntio a chwerthin drwy'r nos!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Bore 'ma. Nesh i'r camgymeriad o feddwl am yr olygfa yn Dumbo pan mae Dumbo yn mynd i weld ei fam yn y carchar. Crïo. Bob. Tro.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes. Tin-droi.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ben Garn, Pwllheli. Er mai bryn bychan iawn ydi'r Garn, mae rhywun yn gweld am filltiroedd i bob cyfeiriad, ac mae'r dre is-law yn edrych fel darlun o lyfr plant.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Roedd fy noson stag yng Nghaernarfon yn lot o hwyl 'nôl bob tebyg. Dwi'm yn cofio rhyw lawer ond mi wnaeth fy ffrind fy hysbysu i'r bore wedyn mod i 'di bod yn "Serenedio Cwgeriaid Caernarfon drwy ganu Myfanwy" felly mae'n rhaid ei bod hi'n noson dda.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Fy hoff ffilm ydi Inside Llewyn Davis, un o ffilmiau'r brodyr Coen, a'm hoff llyfr ydi Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Yr holl ffrindiau dwi'n addo trefnu i fynd am beint efo nhw, ond byth yn g'neud.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Pan oeddwn i'n ddeg oed roeddwn i wir isho bod yn Weinidog. Doeddwn i ddim yn hogyn crefyddol iawn, ond roeddwn i'n licio'r syniad o yfed lot o de, bwyta cacennau a sgwrsio efo hen ledis.
O archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro yn y mynyddoedd efo nheulu.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Sebona Fi gan Yws Gwynedd. Mae hi'n fy atgoffa i o ddawnsio yn y glaw ar Sadwrn ola' 'Steddfod Caerdydd 2018. Mae hi werth bod yn Gymry Gymraeg jyst ar gyfer Sadwrn ola' Steddfod!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Mozzarella a tomato, Cinio 'Dolig a Chacan lus.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy mab hynaf sydd yn ddyflwydd a hanner. Byddai'n braf medru gweld y byd drwy ei lygaid o.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Steffan Alun