Safle ysgol Gymraeg newydd yn troi'n ffrae wleidyddol

  • Cyhoeddwyd
safle posib
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad gwreiddiol y sir oedd codi ysgol newydd ar gae Llanerch yn Llanelli

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo gwleidyddion Llafur blaenllaw o danseilio'r ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg yn Llanelli yn dilyn penderfyniad y cyngor sir i beidio bwrw mlaen gyda chynlluniau i godi ysgol Gymraeg newydd ar safle yng nghanol y dref.

Roedd y sir eisoes wedi gwario £500,000 ar gynlluniau ar gyfer safle Llanerch fyddai'n gartref newydd i Ysgol Dewi Sant.

Ond ar ôl cyfarfod gyda Llywodraethwyr Dewi Sant ddydd Llun dywedodd Cyngor Sir Gâr eu bod "nawr yn chwilio am safle newydd."

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies o Blaid Cymru, aelod y Bwrdd Gweithredol dros Addysg: "Roedd y cynlluniau manwl yn barod i fynd o flaen pwyllgor cynllunio'r sir pan ofynnodd Lee Waters [AC Llafur Llanelli] i Lywodraeth Cymru alw'r cais i mewn i'w ystyried ganddynt hwy."

Yng Ngorffennaf 2019 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymyrryd, gan atal caniatâd cynllunio rhag cael ei gymeradwyo.

Roedd yna wrthwynebiad i safle Llanerch wedi bod gan rhai pobl leol oedd am gadw ardaloedd gwyrdd yng nghanol y dref.

Mae'r cynghorydd Davies yn feirniadol hefyd o'r aelod seneddol Llafur Nia Griffiths, ac arweinydd grŵp Llafur ar Gyngor Caerfryddin, Rob James

"Mae chwe mis ers hynny, ac ni all y cyngor na llywodraethwyr yr ysgol oedi rhagor," meddai.

"Mae'n gwbwl warthus bod Lee Waters AC, Nia Griffith AS a'r cynghorydd Rob James wedi tanseilio'r cynllun ar gyfer ysgol newydd trwy eu gwrthwynebiad cyson i safle Llanerch.

"Yn eu hymgais i wneud elw gwleidyddol tsiêp o'r sefyllfa hon, maent wedi gwneud cam mawr â channoedd o blant Llanelli a'u teuluoedd."

Gwnaed cais i'r blaid Lafur am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr yn poeni am danciau dŵr o dan y caeau, ynghyd â phryder am golli mannau gwyrdd

Mae adeilad presennol Ysgol Dewi Sant, sydd â 450 o ddisgyblion angen cryn waith atgyweirio, ac roedd sefydlu ysgol newydd yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin: "Yn dilyn trafodaethau manwl gyda llywodraethwyr ysgol ddydd Llun, bydd y Cyngor yn datblygu ffordd newydd o symud ymlaen ar gyfer y cynllun.

"Mae cynlluniau presennol i adeiladu ysgol newydd ar gae Llanerch wedi'u gohirio wrth i drafodaethau manwl barhau ynghylch addasrwydd y safle, a gafodd ei nodi fel lleoliad a ffefrir.

"Mae'r Cyngor eisoes wedi dechrau ar ymarfer i nodi safle arall."

Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli yn dweud eu bod nhw hefyd "siomedig" ac yn "rhwystredig" o glywed y newyddion am yr oedi.

"Ein ffocws bellach yw cefnogi'r disgyblion, yr athrawon a'r pennaeth i gynnal y safon uchel o addysg a geir yn un o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg hynaf Cymru sy'n cael ei hariannu gan awdurdod lleol," meddai datganiad.

Nos Lun ar ôl cyfarfod llywodraethwyr yr ysgol, dywedodd y cynghorydd Rob James, sy'n llywodraethwr yn Ysgol Dewi Sant: "Uchelgais pawb yw sicrhau ysgol o safon yr unfed ganrif ar hugain i gael ei hadeiladu, er mwyn caniatáu i'r ysgol ffynnu.

"Fel cynghorydd sir a llywodraethwr o Ysgol Dewi Sant fe fyddaf yn cydweithio yn agos gyda swyddogion y sir, yr ysgol, disgyblion a rheini a thrigolion er mwyn sicrhau ein bod yn dod i safle addas mor fuan â phosib."