Emiliano Sala: Caerdydd yn galw am ymchwiliad i Nantes

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caerdydd yn mynnu nad oedd Emiliano Sala wedi cwblhau ei drosglwyddiad pan fu farw

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi pasio gwybodaeth ymlaen at erlynwyr yn Ffrainc i ystyried a oes gan glwb Nantes achos i'w ateb ynglŷn â marwolaeth Emiliano Sala.

Bu farw'r chwaraewr, 28, a'r peilot David Ibbotson pan wnaeth eu hawyren blymio i Fôr Udd ar 21 Ionawr 2019.

Mae'r Adar Gleision wedi gwrthod talu'r £15m oedd wedi'i gytuno rhwng y ddau glwb am y chwaraewr, gan ddweud bod "tystiolaeth ddigonol o ddrygioni" wedi'i ganfod.

Dywedodd Nantes eu bod "wedi syfrdanu" gydag ymddygiad Caerdydd.

Mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi dweud mewn adroddiad cychwynnol y gallai'r lefel o garbon monocsid yng ngwaed Sala fod wedi'i ladd.

Ychwanegodd yr adroddiad nad oedd hawl gan Mr Ibbotson i gael ei dalu am gario teithwyr na hedfan wedi iddi nosi oherwydd ei fod yn lliwddall.

Mae disgwyl i'r adroddiad llawn gael ei gyhoeddi cyn diwedd Mawrth.

'Celwyddau'

Mae Caerdydd wedi gwrthod talu ceiniog o'r ffi trosglwyddo i Nantes, gan honni nad oedd Sala wedi cwblhau ei symudiad yn swyddogol pan fu farw.

Ym mis Medi fe wnaeth Fifa ddweud bod rhaid iddyn nhw dalu'r taliad cyntaf - £5.3m - i Nantes, ond mae Caerdydd wedi apelio yn erbyn y penderfyniad.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y clwb ryddhau datganiad yn galw am ymchwiliad gan yr awdurdodau yn Ffrainc.

Ond mae Nantes wedi beirniadu'r Adar Gleision, gan ddweud eu bod "wedi syfrdanu gan ymdrechion parhaus Caerdydd i gymryd mantais o'r trychineb yma".

"Mae Nantes wastad wedi ymddwyn yn addas, tra bod Caerdydd wedi ymdrechu dro ar ôl tro i newid barn y cyhoedd gyda chelwyddau," meddai llefarydd.