Emiliano Sala wedi ei 'orfodi o Nantes' cyn damwain a'i laddodd
- Cyhoeddwyd
Roedd Emiliano Sala yn teimlo ei fod yn cael ei orfodi allan o glwb FC Nantes cyn y ddamwain awyren a'i lladdodd, yn ôl neges i ffrind ddyddiau cyn iddo farw.
Bu farw'r Archentwr a'r peilot o Brydain, David Ibbotson, pan gwympodd yr awyren yr oedden nhw'n teithio ynddi i Fôr Udd ar y daith o Nantes i Gaerdydd.
Yn y neges llais Whatsapp, sydd wedi ei rhyddhau i'r BBC union flwyddyn wedi ei farwolaeth, mae Sala'n dweud nad yw'n cael ei werthfawrogi na'i barchu yn Ffrainc.
Dridiau cyn arwyddo gyda Chaerdydd, mae Sala'n cyfaddef nad ydy o wedi penderfynu i dderbyn y trosglwyddiad ai peidio, a'i fod yn "gweddïo am rywbeth mwy diddorol".
Yn y cyfamser, mae'r offeiriad yn yr eglwys lle roedd yn addoli'n gyson wedi dweud bod Sala wedi cael ei drin fel "tegan" oedd ag ychydig iawn o reolaeth dros ei yrfa.
Dywedodd FC Nantes nad oedden nhw am wneud sylw.
Fe ddiflannodd yr awyren Piper Malibu oddi ar radar i'r gogledd o ynys Guernsey am 20:16 ar 21 Ionawr 2019.
Fe gafodd corff Sala ei godi o weddillion yr awyren ym mis Chwefror, ond mae Mr Ibbotson, 59 o Crowle, Sir Lincoln, dal ar goll.
Bydd yr AAIB (Air Accidents Investigation Branch) yn cyhoeddi eu hadroddiad i'r ddamwain yn yr wythnosau nesaf.
Ond datgelodd yr AAIB ym mis Awst 2019 bod lefel uchel o garbon monocsid wedi ei ddarganfod yng ngwaed Sala.
Daeth i'r amlwg hefyd nad oedd gan Mr Ibbotson, fel peilot preifat, yr hawl i gludo teithwyr er mwyn cael tal neu fudd ariannol.
Roedd hefyd yn anghymwys i hedfan gyda'r nos oherwydd ei fod yn ddifrifol ddall i liwiau.
Mae Heddlu Dorset, crwner Dorset a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yn ymchwilio i'r ddamwain.
Fe gafodd dyn 64 oed o Sir Gogledd Efrog ei arestio yn mis Mehefin 2019 ar amheuaeth o ddynladdiad drwy weithred anghyfreithlon. Fe gafodd ei ryddhau dan ymchwiliad wrth i'r ymchwiliad barhau.
'Darganfod y gwir'
Dywedodd mam Sala, Mercedes Taffarel, na fyddai'r boen o farwolaeth ei mab "fyth yn diflannu", gan alw ar ymchwilwyr i "gyflymu" eu gwaith fel bod modd cynnal cwest cyn gynted â phosib.
Dywedodd y teulu eu bod eisiau "darganfod y gwir o'r diwedd" ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd.
Mae disgwyl adolygiad cyn cwest ym mis Mawrth.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwrthod talu unrhyw ran o'r ffi drosglwyddo, sef £15m, gan honni nad oedd y trosglwyddiad yn orfodol yn gyfreithiol, ac felly nad oedd Sala yn un o'i chwaraewyr yn swyddogol.
Mewn neges llais WhatsApp i'w ffrind ar 15 Ionawr, mae Sala'n dweud ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei orfodi o'i glwb presennol, ar ôl gofyn pedair gwaith i ymestyn ei gytundeb.
Mae'r neges - gafodd ei hanfon ddiwrnod ar ôl ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd a thridiau cyn iddo ddychwelyd i Gymru i arwyddo gyda'r clwb - yn ei gwneud hi'n glir ei fod yn ansicr am symud.
'Ddim yn fy mharchu'
Ar noswyl ei gêm olaf dros FC Nantes, dywedodd Sala: "Dy'n nhw ddim yn fy mharchu i, dy'n nhw ddim yn fy ngwerthfawrogi...
"Dwi ddim wedi gwneud penderfyniad... Es i i gael ychydig o wybodaeth gan y clwb yma sydd fy eisiau ac sydd eisiau cydnabod fy ngwerth i...
"Mi fydda i'n 29 eleni felly mae'n rhaid i mi feddwl am y peth. Dwi ddim wedi dweud 'ie'."
Yn y negeseuon, mae Sala'n dweud nad oedd Nantes wedi datgelu popeth am y cynlluniau i'w drosglwyddo.
Mae'n honni nad oedd hyfforddwr y clwb, Vahid Halilhodzic - sydd bellach wedi gadael FC Nantes - yn ymwybodol o'r cynlluniau a'i fod wedi mynegi ei rwystredigaeth gyda Sala.
Mae hefyd yn mynegi ei ddymuniad i chwarae dros FC Nantes yn y gêm y noson ganlynol yn erbyn Nimes - ei gêm olaf dros Nantes yn y pen draw.
"Hoffwn i o leiaf fod ar y fainc yfory, oherwydd os yw'n rhoi'r cyfle i mi chwarae 10, 20 munud, dwi eisiau trio fy ngorau, dwi eisiau chwarae."
Mae'r neges yn gorffen: "Rydw i am adael ychydig o amser fynd heibio… [a] pharhau i weddïo bod rhywbeth mwy diddorol yn ymddangos.
"Felly fe gawn weld. Os ddim, os nad oes unrhyw beth, rhwng yfory a'r diwrnod ar ôl yfory, fe ai i Gaerdydd, dwi'n meddwl."
Ar 18 Ionawr, aeth Sala yn ôl i Gaerdydd ar gyfer prawf meddygol, ac i arwyddo ei gytundeb.
Yn ôl y Tad Guillaume le Floc'h, offeiriad yn eglwys San Pedr a San Paul yn Carquefou, tref fach i'r gogledd o Nantes lle roedd Sala'n byw, roedd y chwaraewr yn ymwelydd cyson yno.
Dywedodd y byddai'n "gweddïo gyda chanwyll… roedd yn chwilio am dawelwch a llonyddwch".
"Fe weles i e ychydig ddyddiau cyn [ei farwolaeth] a'i fendithio… doeddwn i ddim yn gwneud hyn yn aml ond ar y diwrnod hynny roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cael fy symud i wneud hynny."
'Marwolaeth Emiliano heb newid llawer'
Yn gefnogwr FC Nantes ei hun, dywedodd y Tad Guillaume: "Roedden ni'n gobeithio y byddai'n aros am y tymor… Roeddwn i'n siomedig iawn i glywed ei fod yn symud.
"Roeddwn i'n eitha' blin, oherwydd roedd gymaint o newidiadau am y ffordd y byddai'n gadael… ac mi oeddwn i'n teimlo fel ei fod yn degan… [gyda] phobl yn penderfynu drosto… ac roedd byw gyda hynny wir yn anodd.
"Mae pêl-droedwyr yn gallu bod yn ddioddefwyr… bydde pobl yn dweud eu bod yn cael buddiannau hefyd gan eu bod yn ennill cymaint o arian…
"Ond mewn gwirionedd does ganddyn nhw ddim gymaint â hynny o ddewis mewn bywyd a dyw hynny ddim yn barchus iawn o'u rhyddid."
Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl, yn anffodus, nad ydy marwolaeth Emiliano wedi newid rhyw lawer ac mae hynny'n siomedig."
Yn ôl Jean-Marcel Boudard, newyddiadurwr chwaraeon gyda Ouest France yn Nantes, roedd yr ymosodwr yn wynebu penbleth dros symud.
"Mae'n ddrama. Trasiedi dynol am ddyn, sydd wedi taflu goleuni ar ddiffygion y busnes pêl-droed," meddai.
"Mae hefyd yn stori sy'n ein hatgoffa, oherwydd rydyn ni fel newyddiadurwyr yn dueddol o anghofio, bod chwaraewyr hefyd yn fodau dynol cyn eu bod yn nwyddau rhwng clybiau.
"Ni'n trafod trosglwyddiadau yn gyson, symiau mawr… mae llai o ddiddordeb, yn gyffredinol, mewn cymeriadau a'r personoliaethau y tu ôl iddyn nhw - ar wahan i'r prif chwaraewyr…
"Ni ddim yn gweld nhw y tu hwnt i sero ar siec neu gyfri' banc."
Penderfynodd corff llywodraethu pêl-droed, FIFA, ym mis Medi 2019 y dylai Caerdydd dalu rhan gyntaf o'r ffi drosglwyddo, sef £5.3m i FC Nantes, ond mae Caerdydd wedi apelio'r penderfyniad.
Bydd yr apêl yn cael ei glywed gan CAS (Court of Arbitration for Sport) yn y gwanwyn.
Dywedodd CPD Caerdydd bod meddyliau'r clwb gyda theulu a ffrindiau Emiliano Sala a David Ibbotson, a bod gwahoddiad i gefnogwyr roi blodau wrth gerflun Fred Keenor ger Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Mawrth.
Dywedodd FC Nantes y byddai teyrnged i Sala yn ystod gêm y clwb yn erbyn Bordeaux ddydd Sul, yn ogystal â chrys arbennig er cof amdano.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd14 Awst 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2019
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2019