Pryder cynyddol dros ymddygiad pobl ifanc yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Difrod i ffens yn Nant Y PandyFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ffensys pren eu dymchwel yng warchodfa Nant y Pandy ym mis Rhagfyr

Mae arweinwyr cymunedol wedi beirniadu cynnydd diweddar mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Llangefni, gan apelio ar bobl ifanc i "roi cynnig" ar weithgareddau lleol ar eu cyfer yn hytrach na chreu problemau i drigolion eraill.

Cafodd nifer o bryderon eu crybwyll mewn cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Tref Llangefni, Clwb Pêl-droed Langefni a Menter Gymdeithasol Llangefni.

Mae'r cyngor tref wedi derbyn cwynion bod pobl ifanc yn "hel y tu allan i archfarchnadoedd lleol" gan "achosi niwsans drwy godi ofn ar siopwyr a phobl sy'n pasio".

Hefyd mae difrod wedi ei achosi'n ddiweddar i'r Parc Chwaraeon Dinesig, gwarchodfa natur Nant y Pandy, a'r toiledau cyhoeddus ger siop Iceland.

Mae pryderon eraill yn cynnwys:

  • honiadau o gymryd cyffuriau ac yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus;

  • achosion o ddwyn o siopau;

  • amheuaeth bod tân yn yr hen ysgol ar Stryd y Capel ddiwedd Rhagfyr wedi ei gynnau'n fwriadol - mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ymchwilio i'r achos hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Parc Chwaraeon Dinesig Llangefni yw un o'r llefydd sydd wedi cael ei ddifrodi'n ddiweddar

Cafodd yr unigolion oedd yn gyfrifol am ddifrodi'r Parc Chwaraeon Dinesig eu hadnabod yn sgil lluniau camerâu CCTV ar y safle.

Fel rhan o brosiect cyfiawnder adferol fe weithiodd Menter Gymdeithasol Llangefni gyda'r bobl ifanc perthnasol a'u rhieni "er mwyn gwneud yn iawn" am y difrod a gafodd ei achosi.

Dywedodd y cynghorydd Alun Mummery, yr aelod o bwyllgor gwaith Cyngor Môn sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: "Rydym yn dod yn fwyfwy ymwybodol o bryderon trigolion lleol ac rydym yn cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn dod â'r gyfres o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol i ben.

"Rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i hysbysu'r heddlu am unrhyw achosion cyn gynted â phosibl."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl ifanc yn cael eu hannog i fanteisio ar adnoddau clybiau lleol os maen nhw'n chwilio am rywbeth i'w wneud

Mae'r cyngor hefyd yn annog pobl ifanc "i roi cynnig ar chwaraeon neu ddiddordebau newydd gyda'i ffrindiau" a manteisio ar glybiau ieuenctid, pêl-droed, rygbi a bocsio lleol.

Mae cynrychiolwyr lleol hefyd yn atgoffa rhieni "o'r angen iddynt wybod lle mae eu plant a beth allent fod yn ei wneud yn eu hamser sbâr" ac i gysylltu â gwasanaeth Teulu Môn am gymorth os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am ymddygiad eu plant.

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn trefnu gweithgareddau hanner tymor ar gyfer pobl ifanc mewn ymgais i'w hatal rhag ystyried troseddu yn niffyg dim byd gwell i'w wneud.

Ond mae'r Arolygydd Rhanbarth, Llinos Davies, yn rhybuddio pobl ifanc, rhieni a gwarchodwyr bod "canlyniadau i ymddygiad troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei ddioddef gan yr Heddlu yn lleol".