Marwolaeth Glyn-nedd: Dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol wedi cael ei gyhuddo o lofruddio wedi i gorff pensiynwr gael ei ddarganfod ger traphont yng Nglyn-nedd.
Cafodd corff David Williams, oedd yn 73 oed, ei ddarganfod tu allan i'w gartref, ger Traphont Pontwalby brynhawn Llun.
Bydd Kyle Bowen, 28, yn mynd o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George y bydd swyddogion Heddlu De Cymru yn parhau yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
Ychwanegodd eu bod yn dal eisiau clywed gan bobl oedd yn yr ardal rhwng 14:00 a 20:00 ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020