Cronfa £80m yn golygu llai o aros am driniaethau
- Cyhoeddwyd
Mae cronfa driniaeth gwerth £80m wedi golygu "lleihad sylweddol" yn yr amser y mae triniaethau newydd yn cymryd i fod ar gael i gleifion yng Nghymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r amser aros am driniaethau o'r fath wedi ei gwtogi o 90 diwrnod i 13 diwrnod.
Mae'r Gronfa Driniaethau Newydd yn rhoi arian i fyrddau iechyd Cymru dros gyfnod o bum mlynedd er mwyn cyflymu mynediad at feddyginiaethau sy'n gwella neu ymestyn bywydau.
Cafodd ei lansio yn 2017, ac mae'r gronfa nawr yn gyfrifol am 226 o feddyginiaethau ar gyfer dros 100 o gyflyrau gwahanol.
Un esiampl o gyffur sydd bellach ar gael yw Palbociclib.
Mae'n therapi sydd wedi'i dargedu i atal twf ac ymlediad canser.
Canser eilaidd
Un sydd wedi elwa ohono yw Kirsty Henderson o Gaerffili. Cafodd wybod yn 2013 fod ganddi ganser y fron.
Cafodd lawdriniaeth ar y pryd ac fe gafodd wybod ei bod yn glir o ganser.
Ond yna wrth ddychwelyd o wyliau teulu yn Ibiza, roedd ganddi gur pen ofnadwy, ac fe gafodd ddiagnosis o ganser eilaidd y tu ôl i'w llygad nad oes modd cael llawdriniaeth ar ei gyfer.
Dywedodd Ms Henderson fod y tiwmor "maint eirinen" ac yn rhoi'r "cur pen gwaethaf allwch chi ddychmygu".
Cafodd radiotherapi ac yna'r cyffur Palbociclib. Mae hi hefyd yn derbyn Letrozole - cyffur arall sy'n ceisio atal ymlediad canser.
Dywedodd fod y tiwmor wedi lleihau o 30% mewn chwe mis.
Eglurodd Ms Henderson, sy'n gyfrifydd: "Maen nhw'n credu fod y tiwmor bellach yn anweithredol er nad yw wedi mynd yn llwyr.
"Mae'r driniaeth wedi gwneud tolc positif yn y tyfiant ac mae o dan reolaeth.
"Rwy'n gweithio llawn amser, mae gen i docyn tymor gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd ac mae fy ngŵr a minnau'n mynd ar wyliau i Tenerife."
Mae Ms Henderson hefyd wedi codi bron £30,000 i Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, lle cafodd driniaeth.
Dywedodd Andrew Evans, prif swyddog fferyllol Cymru fod y meddyginiaethau yn "effeithio ar safon bywyd pobl sydd ag ystod eang o gyflyrau meddygol".
Ychwanegodd bod cael cyffur ar gael i gleifion yn "broses eitha' hir", a bod angen cyfres o brofion clinigol ac yna trwydded gan NICE (National Institute for Clinical Excellence) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod y gronfa yn "gwneud yn union yr hyn yr oedd wedi'i fwriadu".
"Mae'n ein galluogi ni i drawsnewid y modd y mae gofal iechyd yn cael ei gyflawni," ychwanegodd.
"I rai cleifion mae'r meddyginiaethau yma yn achub eu bywydau, ac i eraill maen nhw'n dod â gwelliannau sylweddol i'w bywydau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2016