Chwe Gwlad 2020: Rygbi Cymru yn dechrau cyfnod newydd

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

A fydd Wayne Pivac yn olynydd llwyddiannus i Warren Gatland?

Pencampwriaeth newydd. Hyfforddwr newydd. Chwaraewyr newydd.

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ddydd Sadwrn wrth i Gymru groesawu'r Eidal i Gaerdydd, ac mae'n newid byd.

Mae'n teimlo fel oes ers i Warren Gatland gymryd awenau ei gêm gyntaf gyda'r tîm cenedlaethol, ond oherwydd llwyddiant ysgubol yr 'oes' honno mae yna bwysau ar yr hyfforddwr newydd.

Wayne Pivac yw'r pedwerydd dyn o Seland Newydd i fod wrth y llyw.

O'r tri arall, fe aeth dau - Graham Henry a Steve Hansen - ymlaen i ennill Cwpan y Byd gyda'u mamwlad tra bod y llall - Gatland - wedi cael un o gatiau Stadiwm Principality wedi ei enwi ar ei ôl.

Bydd rhaid i Pivac ddechrau'r gystadleuaeth heb ddau o chwaraewyr mwyaf dylanwadol a gorau Cymru.

Dyw Jonathan Davies ddim wedi gwella o anaf a gafodd yng Nghwpan y Byd 2019, ac ni fydd Liam Williams ar gael chwaith.

Oherwydd anafiadau i ganolwyr eraill yn y garfan, mae Pivac wedi dewis dechrau gyda George North yn y canol.

Roedd llawer o sylw wedi ei roi i'r ffaith fod Rhys Webb ar gael i Gymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd.

Roedd Webb wedi dewis mynd i chwarae ei rygbi yn Ffrainc, gan fynd yn groes i reol Undeb Rygbi Cymru o safbwynt pwy sy'n gymwys i chwarae yn y crys coch.

Ond er fod Webb wedi dychwelyd i'r garfan yn gynt na'r disgwyl, dim ond ar y fainc y bydd yntau'n dechrau'r gêm brynhawn Sadwrn.

Penderfyniadau dewr fel yna sy'n rhoi pwysau ar hyfforddwr os yw pethau'n dechrau mynd o'u lle.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Scarlets yn ennill y Pro12 yn 2017 gyda Jonathan Davies (chwith) a Liam Williams (dde) ymhlith y rhai sy'n dathlu

Bydd digon o gefnogwyr y Scarlets yn tystio i benderfyniadau dewr gan Pivac pan oedd yn hyfforddi'r tîm o Lanelli.

Llwyddodd i ennill pencampwriaeth y Pro12 i'r Scarlets yn 2017 gyda buddugoliaeth yn erbyn Munster yn Nulyn yn y rownd derfynol.

Daeth y fuddugoliaeth oherwydd chwe chais yn y rownd derfynol, ac mae rygbi ymosodol fel yna yn nodwedd amlwg sy'n gwahaniaethu Pivac o'i ragflaenydd Gatland.

Yn ôl nifer o chwaraewyr Cymru, mae positifrwydd yn rhywbeth sydd wedi dod yn amlwg gan Pivac yn ei ddyddiau cynnar yn y brif swydd.

Does dim sôn am "amddiffyn" pencampwriaeth y Chwe Gwlad - mae hynny'n "swnio'n rhy amddiffynnol" yn ôl Pivac - ond yn hytrach mae'n dweud wrth ei dîm i fynd allan i ennill.

Rygbi deniadol?

Mae cefnogwyr Cymru wrth eu boddau'n gweld rygbi agored ymosodol, does dim amheuaeth o hynny.

Ond wedi'r blynyddoedd diweddar maen nhw hefyd wedi arfer gweld llwyddiant ar y cae.

Efallai mai gêm yn erbyn yr Eidal yw'r dechreuad gorau posib i Pivac, gan nad yw'r Eidalwyr yn debygol o brofi'n wrthwynebwyr anodd.

Fe ddaw gemau anoddach, ac fe gawn weld i ba raddau y mae cefnogwyr Cymru'n barod i fargeinio... chwarae rygbi deniadol, neu ennill.

Dyw hi ddim yn amhosib cyflawni'r ddau beth wrth gwrs, ac os fydd Pivac yn llwyddo i wneud hynny hwyrach bydd angen enw newydd ar un arall o giatiau'r stadiwm cyn bo hir.