Bwa croes: Dim ond dau wedi prynu eitemau

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai 2019

Clywodd rheithgor mewn achos llofruddiaeth mai dim ond dau berson yn y DU oedd wedi prynu'r cyfuniad o saethau a llafnau a laddodd Gerald Corrigan yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth.

Un ohonynt oedd y diffynnydd Terence Whall, sy'n gwadu llofruddiaeth.

Y llall oedd dyn oedd wedi bwriadu mynd ar drip hela i Dde Affrica, ond bu'n rhaid iddo ganslo'r daith ac fe gafodd yr eitemau eu cipio gan Heddlu Gogledd Cymru.

Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, wedi digwyddiad y tu allan i'w dŷ ger Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio dysgl loeren teledu.

Roedd wedi ei saethu gan fwa croes, a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mai.

Clywodd y llys fod yr heddlu wedi ymchwilio i eitemau a brynwyd gan Mr Whall ar wefan Amazon.

Ar 1 Mawrth fe brynodd lafnau llydan gwyrdd - yr un lliw â'r rhai a laddodd Mr Corrigan.

Ar 7 Ebrill fe brynodd saethau bwa croes gyda llafnau gwydr ffibr 20 modfedd o hyd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llafn saeth debyg i'r un gafodd ei saethu yn y llofruddiaeth

Dywedodd Ditectif Cwnstabl Donal Kenyon, swyddog gwrthrychau achosion llofruddiaeth gyda Heddlu'r Gogledd, mai'r gwrthrych pwysicaf gerbron y llys oedd y saeth a ddefnyddiwyd i ladd Mr Corrigan ac a ganfuwyd ger safle'r llofruddiaeth.

Ar ôl darganfod mai dim ond un person arall a brynodd yr union gyfuniad, aeth Mr Kenyon i weld y person arall a gweld nad oedd wedi defnyddio'r un o'r eitemau a brynodd.

Roedd yr eitemau yna ganddo yn y llys.

Mae'r diffynnydd yn yr achos, Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un diffynnydd arall, Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Ddydd Llun fe blediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol.

Mae'r achos yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd gyfrifiadur yn dangos safle honedig y saethwr ger y wal yn amgylchynu'r tŷ, ac yn wynebu'r ddysgl loeren