Bwa croes: Tyst yn gwadu perthynas â diffynnydd
- Cyhoeddwyd

Argraff artist o Gavin Jones (chwith) a Terence Whall (ail o'r chwith) yn gwrando ar yr achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun
Mae tyst y mae diffynnydd mewn achos llofruddiaeth yn honni iddo gael rhyw gydag ef, wedi gwadu eu bod mewn perthynas rhywiol.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, mae Terence Whall, 39 oed o Fryngwran, Ynys Môn yn gwadu llofruddio Gerald Corrigan, 74, yn ei gartref ger Caergybi.
Mae Mr Whall yn dweud ei fod wedi bod yn cael rhyw gyda Thomas Barry Williams, ar y noson pan gafodd Mr Corrigan ei saethu gan fwa croes.
Dywedodd Mr Williams wrth y llys ddydd Llun nad oedd ei berthynas gyda'r diffynnydd yn un rhywiol, ac nad oedd wedi cwrdd ag o ar y noson dan sylw.
Bu farw Mr Corrigan o'i anafiadau dair wythnos ar ôl cael ei saethu gyda bwa croes ar 19 Ebrill, 2019.

Delwedd gan Heddlu'r Gogledd o'r safle lle maen nhw'n credu fod y bwa croes wedi ei danio
Clywodd y llys gan Mr Williams ei fod wedi cyfarfod Mr Whall, therapydd chwaraeon, tua phum mlynedd yn ôl er mwyn cael triniaeth ar gyfer anhwylder.
Roedd gan y ddau ddyn ddiddordeb mawr mewn dulliau ymladd hunan amddiffyn.
Fe ddechreuon nhw gwrdd yn rheolaidd i hyfforddi ac yna i fynd allan i gerdded a beicio, yn ôl Mr Williams.
Noson 19 Ebrill
Ychwanegodd fod nhw wedi gweld llai o'i gilydd pan ddechreuodd Mr Williams weld ei bartner newydd Susie Holmes.
Ar noson y saethu, dywedodd Mr Williams ei fod wedi mynd â'i bartner i'w gwaith yng Nghonwy, tua 21:50, cyn cwrdd â'i gyflenwr canabis ar ochr ffordd yn Ynys Môn, ac yna smocio gydag ef am tua hanner awr.
Yna, dywedodd iddo fynd i dŷ ei rieni yn Niwbwrch a siarad gyda'i chwarae tan tua 01:00 ar 19 Ebrill, cyn mynd i draeth Llanddwyn am tua hanner awr, cyn teithio nôl i Gonwy.
Pan ofnwyd iddo a welodd Mr Whall yn ystod y noson, dywedodd: "Naddo."

Llafn saeth tebyg i'r un gafodd ei saethu yn y llofruddiaeth
Dywedodd Mr Williams wrth y llys bod ei ffôn symudol wedi torri yn ystod ffrae gyda Ms Holmes y noson honno, a phrin oedd modd ei ddefnyddio.
Wrth gael ei groesholi gan David Elias ar gyfer yr amddiffyniad, dywedodd ei fod wedi taflu'r ffôn ychydig ddyddiau'n ddiweddarach a heb wneud unrhyw alwadau nac anfon negeseuon testun.
Yn ôl Mr Williams, y cyntaf roedd o'n gwybod am yr honiad ei fod ef a Mr Whall yn cael perthynas rhywiol, oedd tua phythefnos yn ôl.
Cyhuddiadau
Mae Terence Whall yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac mae un diffynnydd arall, Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Fe blediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol yn gynharach yn yr achos.
Mae'r achos yn parhau.

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai 2019
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020