Cofio'r cyfarwyddwr theatr Terry Hands fu farw yn 79 oed

  • Cyhoeddwyd
Terry Hands
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Terry Hands ymddeol yn 2015 ar ôl 17 mlynedd yn rhedeg Theatr Clwyd Cymru

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyfarwyddwr theatr, Terry Hands fu farw yn 79 oed.

Bu'n gyfarwyddwr artistig a phrif weithredwr Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug am 17 mlynedd cyn ymddeol yn 2015, ac fe chwaraeodd ran allweddol i arbed y theatr rhag cau yn 1997.

Cyn hynny fe dreuliodd 25 mlynedd yn y Royal Shakespeare Company, fel cyfarwyddwr, a chyfarwyddwr artistig a fo hefyd wnaeth sefydlu Theatr Everyman, Lerpwl yn 1964.

Cafodd ei anrhydeddu gyda CBE am ei gyfraniad helaeth i fyd y theatr.

Cafodd Terry Hands ei eni yn Hampshire yn 1938 a'i addysgu ym Mhrifysgol Birmingham ac Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig.

'Doniol a bonheddig'

Rhoddodd Tamara Harvey, cyfarwyddwr artistig presennol Theatr Clwyd, deyrnged i'w rhagflaenydd:

"Roedd Terry Hands yn gawr ym myd y theatr, ac yn fwy felly yn Theatr Clwyd.

"Fe achubodd y theatr rhag cau - ac nid gorddweud yw hynny - a'i gwarchod rhag y toriadau cyllid cyhoeddus parhaus, ac fe gadwodd ein theatr yn creu timau gyda'n gilydd tra bod theatrau eraill ar draws y wlad yn colli'u timau nhw.

"Un peth dwi'n difaru yn broffesiynol yw na chefais y cyfle i weithio gydag e. Roedd yr artist gwefreiddiol gyda gweledigaeth unigryw, ac roedd hefyd yn ddyn doniol a bonheddig.

"Fe wnaeth feithrin cenhedlaeth o actorion Cymreig, ac roedd yn gefnogol dros ben i gyfarwyddwyr ifanc oedd yn dod i Glwyd i ddatblygu.

"Wrth i mi ddod yma fe gefais fy atgoffa gan lawer fod gen i esgidiau mawr i'w llenwi, ond byth gan Terry ei hun.

"Mae gan y theatr yng Nghymru a thu hwnt ddyled amhrisiadwy iddo, a bydd colled enfawr ar ei ôl gan bawb oedd yn ddigon ffodus i'w nabod fel cydweithiwr, mentor neu ffrind."