Tri yn euog o erlid a llofruddio llanc yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Fahad Mohamed NurFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Fahad Mohamed Nur ei ganfod ger gorsaf rheilffordd Cathays ym mis Mehefin

Mae tri dyn wedi'u cael yn euog o drywanu llanc i farwolaeth ar stryd yng Nghaerdydd.

Cafodd Fahad Mohamed Nur, 18, ei ganfod mewn cyflwr difrifol ger gorsaf rheilffordd Cathays ym mis Mehefin y llynedd.

Roedd Shafique Shaddad, 25 o Dre-biwt, a dau frawd - Mustafa Aldobhani, 22, ac Abdulgalil Aldobhani, 23 - o Cathays yn gwadu ei lofruddio.

Ond cafwyd y tri yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl pedwar diwrnod o drafod.

Clywodd y llys bod y tri wedi erlid Mr Nur toc wedi hanner nos ar 2 Mehefin cyn ei drywanu ar lôn gul ger adeiladau Prifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth y tri ymosod arno a'i drywanu 21 gwaith, gan gynnwys trwy ei galon, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach.