Cynllun i adnewyddu marchnadoedd hanesyddol Wrecsasm
- Cyhoeddwyd
Byddai cynllun i adnewyddu dwy o farchnadoedd hanesyddol tref Wrecsam yn golygu sicrhau buddsoddiad o £2m, medd adroddiad.
Fe wnaeth y cyngor sir sefydlu tasglu yn 2018 er mwyn gweld sut i ddenu mwy o bobl i'r adeiladau gafodd eu codi yn y 19eg ganrif.
Yn eu hadroddiad mae'r tasglu yn awgrymu nifer o newidiadau mewnol i'r ddau adeilad rhestredig gradd II.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei drafod gan gynghorwyr sir ddydd Mercher.
Yn yr adroddiad, dywedodd y cynghorydd Paul Roberts, cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen marchnadoedd canol tref, ei bod yn bwysig cadw'r marchnadoedd oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol.
Ond dywedodd fod angen buddsoddiad a moderneiddio "sylweddol".
Potensial
"Mae potensial i sicrhau tua £2m o ystod o ffynonellau gan gynnwys y cyngor sir, Llywodraeth Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri," meddai.
Yn ôl yr adroddiad mae tua hanner y stondinau yn Marchnad y Cigyddion yn wag ar hyn o bryd.
Dywedodd fod stondinwyr ar y cyfan wedi croesawu'r adroddiad ond wedi mynegi peth pryder am yr effaith ar eu hincwm wrth i waith adnewyddu fynd yn ei flaen.
Daw hyn yn sgil gwaith adnewyddu safle Marchnad y Bobl yn y blynyddoedd diwethaf ar gost o £4.5m.
Pe bai cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, fe allai'r gwaith moderneiddio ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2016