Port Talbot yn boblogaidd gyda phrynwyr tai

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Efallai mai'r gwaith dur enfawr sy'n dod i'r cof pan fydd rhywun yn meddwl am Bort Talbot, ond mae'r dref wedi tyfu i fod yn lleoliad hynod o boblogaidd i brynu eiddo, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Llynedd roedd cynnydd o 7.5% yng ngwerth prisiau tai yn y dref - bron i bum gwaith yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Mae tai rhesymol ger y traeth a diddymu tollau'r bont dros afon Hafren wedi bod yn ffactorau sydd yn gyfrifol am y cynnydd medd gwerthwyr tai.

Roedd pedair tref yng Nghymru ymysg y deg uchaf o ran cynnydd gwerth eiddo.

Cryfderau

Mae'r rhai sy'n byw yng nghysgod y gwaith dur heddiw'n falch o gael gwerthu cryfderau'r dref - yn cynnwys ei golygfeydd naturiol. Un sydd wedi byw yno erioed ydi Adriana Coombes-Owen, 28.

"Mae Port Talbot wedi bod yn adnabyddus erioed am y gwaith dur ond mae'n un o'r llefydd harddaf pan fod yr haul yn machlud dros y traeth.

"Mae wedi gwella llawer er pan roeddwn yn ifanc, mae'n llawer mwy glân. Rwy'n falch o fagu fy mhlant yma a ni fyddai byth yn gadael".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae cymaint mwy i Bort Talbot na'r gwaith dur"

Fe symudodd Amy Zwart, 29, adref i'r ardal wedi cyfnod yn gweithio yn y Dwyrain Canol ac fe ddywedodd fod y dref wedi "newid er gwell".

"Mae nifer o bobl wedi symud yma o Lundain ac wedi symud yma gan eu bod yn hoff o'r ardal ac yn ei weld yn gymaint rhatach", meddai.

"Mae'n braf gwybod fod gan bobl ddiddordeb mewn symud i'r ardal, ond mae'n gwneud pethau'n anoddach i bobl ifanc i brynu tai.

"Mae cynilo ar gyfer morgais yn ddigon anodd, ond nawr mae'n mynd yn anoddach."

Mae'r twf yn y mewnfudo wedi dod a heriau yn ei sgil, a galwadau ar y cyngor i gynyddu cyfleusterau a gwasanaethau lleol fel llefydd mewn ysgolion.

Disgrifiad o’r llun,

"Fe wn i fod y gwaith dur yn hyll, ond pan welai e, rwy'n gwybod fy mod adref."

Y llynedd fe welwyd y drydedd o dair ysgol newydd - Ysgol Bro Dur - yn agor am y tro cyntaf.

Mae Cyngor Nedd Port Talbot wedi ennill gwobr genedlaethol am dai ac adfywio fel rhan o gynllun £35m i adfywio canol y dref.

Ymysg y prosiectau sydd wedi cael clod mae'r cynllun i ail-ddatblygu hen orsaf yr heddlu yn y dref, sydd nawr yn gartref i waith celf Banksy gafodd gymaint o sylw yn y dref y llynedd.

Cynnydd

Fe welwyd cynnydd gwerth £124bn yn y farchnad dai yn y DU y llynedd - cynnydd o 1.6% yn ôl gwefan eiddo Zoopla.

Cymru oedd y wlad a welodd y cynnydd mwyaf yn y DU yn y cyfnod o 12 mis rhwng Rhagfyr 2018 a Thachwedd 2019.

Yng Nghastell-nedd, dafliad carreg o Bort Talbot, fe welwyd cynnydd mewn gwerth eiddo o 4.8%. Yna fe ddaeth Cwmbrân yn ail yn y DU o ran maint y cynnydd mewn eiddo (6.9%) ac fe ddaeth Merthyr Tudful yn chweched (5%) allan o'r deg uchaf.

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth miloedd i Bort Talbot i weld gwaith yr artist Banksy y llynedd