Methiannau wedi cyfrannu at farwolaethau cartef gofal

  • Cyhoeddwyd
Brithdir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cartref gofal bellach dan reolaeth cwmni newydd

Mae cwestau wedi datgelu fod y methiant i drin briwiau pwysedd yn gywir wedi cyfrannu at farwolaethau pedwar person oedrannus mewn cartref gofal yn Sir Caerffili.

Clywodd Crwner Gwent fod William Hickman, June Hamer, Matthew Higgins a Stanley James yn drigolion yng Nghartref Gofal Brithdir yn Nhredegar Newydd yn y 2000au cynnar.

Fe wnaeth y gwrandawiad glywed rhannau o adroddiad gan yr Athro Malcolm Hodkinson, oedd wedi adolygu'r pedwar achos, gan ddatgelu difrifoldeb yr anafiadau.

Roedd gan rai friwiau gradd pedwar - briw sydd mor ddwfn fel y gallai gyrraedd yr asgwrn.

'Esgeulus'

Roedd William Hickman, fu farw yn 2004, wedi bod yn dioddef gyda briwiau gradd tri a phedwar, a dywedodd adroddiad yr Athro Hoskinson bod "ei ofal ym Mrithdir mor isel fel y gallai gael ei ddisgrifio fel esgeulus".

Clywodd y gwrandawiad bod June Hamer wedi datblygu briw enfawr ar ei phen-ôl yn 2004, oedd wedi bod yn "gyfraniad bychan ond sylweddol at ei marwolaeth".

Roedd Matthew Higgins wedi cael briwiau ar ei ben-ôl a'i sawdl, ac yn ôl yr adroddiad fe wnaeth hyn "fwy na thebyg achosi neu gyfrannu" at ei farwolaeth.

Ychwanegodd yr adroddiad bod Stanley James wedi marw yn 2003 yn dilyn "gofal gwirioneddol wael" yn y cartref gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r dyn oedd wrth wraidd yr ymchwiliad, Dr Prana Das, fis diwethaf

Dywedodd y Crwner Geraint Williams bod "arbenigwyr wedi nodi bod y methiannau ym Mrithdir wedi arwain at ddatblygu briwiau pwysedd, wnaeth gyfrannu at eu marwolaethau".

Cafodd y pedwar cwest eu gohirio, a bydd cwestau llawn yn cael eu cynnal ar 1 Medi, ynghyd â chwestau trigolion eraill y cartref gofal.

Mae'r holl achosion wedi'u cysylltu ag Ymgyrch Jasmine, sydd wedi canolbwyntio ar chwe cartref gofal yng Nghymoedd Gwent.

Bu farw'r dyn oedd wrth wraidd yr ymchwiliad, Dr Prana Das, fis diwethaf.

Ni ddaeth yr achos yn ei erbyn ef a dyn arall, Paul Black, i'r llys wedi i Dr Das ddioddef anaf difrifol mewn lladrad yn 2013.