Cofio Dy Wyneb: Hel atgofion gydag Emyr Huws Jones yn 70 oed

  • Cyhoeddwyd
Emyr Huws Jones

Mae ei ganeuon ymysg y rhai mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg heddiw, ond faint o bobl sy'n gwybod am y cyfansoddwr tu ôl i draciau adnabyddus fel Cofio Dy Wyneb, Ceidwad y Goleudy a Rebal Wicend?

Yn gyn-aelod o fandiau Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim, mae Emyr Huws Jones hefyd wedi cyfansoddi caneuon i nifer o artistiaid eraill, fel Brigyn, John ac Alun a Plethyn ac, yn arbennig, Bryn Fôn.

I nodi ei ben-blwydd yn 70 oed fis Chwefror mae Ems, fel mae llawer yn ei adnabod, wedi rhannu rhai o'i luniau personol gyda Cymru Fyw i gyd-fynd â sgwrs a gafodd ar raglen Richard Rees, BBC Radio Cymru am y pethau pwysig sydd wedi cael effaith ar ei fywyd.

Magwraeth yn Sir Fôn

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr yn 1955

Mi oedd o'n gyfnod hapus iawn iawn yn Llangefni, yn y 50au a'r 60au. Tre' Gymreig iawn, dim fel mae hi heddiw, yn anffodus. Digon o lefydd i chwarae, ac o'dd hi'n saff i chwarae.

Yn y cyfnod yna, do'dd rhieni ddim yn poeni lot - 'sa nhw'm yn gweld ni drwy'r dydd ar ddydd Sadwrn. O'ddan ni'n dod adra pan fydden ni isho bwyd, a dyna ni, ac allan wedyn yn y coed, yn dringo a nofio a swingio.

Mae o'n rhywbeth sy'n digwydd wrth i mi fynd yn hŷn, dwi'n meddwl; fydda i'n edrych yn ôl ac yn cofio cyfnod hapus fy mhlentyndod. Mae 'na hiraeth mawr amdano fo.

Dylanwad Bob Dylan, 'y brenin'

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr gydag un o'i gitarau cyntaf

Mae'n siŵr mod i tua 12 pan ges i gitâr - brynis i hi gan fy ffrind o Langefni. Un bach digon di-ddim oedd hi, ond o'dd hi'n ddigon i mi ddysgu cordiau a phethau fel'na a trio swnio fel Bob Dylan... a methu.

Unwaith glywais i Bob Dylan, doedd 'na ddim troi nôl wedyn - fo 'di'r brenin.

Anglesey Strangers oedd y ffefrynnau ganddon ni i gyd, achos oedden nhw'n grŵp lleol, ond yn teithio eitha' dipyn ac yn grŵp proffesiynol, ym mhob ffordd - roedd ganddyn nhw gitarau drud, roedden nhw'n gwisgo siwtiau, roedden nhw'n hogiau smart, ac yn ei wneud o'n llawn amser, ac oedden nhw'n wych.

Ond roedd 'na grwpiau eraill yn dod i Langefni - roedd 'na ddawnsfeydd yna bob nos Sadwrn. Grwpiau yn dod o bob man: Bangor, Porthmadog, Rhyl, Llandudno - grwpiau gwych.

Ac roedd yn bwysig, achos o'dd pobl yn clywed cerddoriaeth ar wahân i'rtop twenty ac oeddet ti'n medru ehangu ar dy wybodaeth.

Y Tebot Piws

Ffynhonnell y llun, Anna Fôn
Disgrifiad o’r llun,

Y Tebot Piws

[Yng Nghaerdydd] nes i gwrdd â'r hipi 'ma, efo'i wallt cyrls ac un daint ar goll o'i geg - Sbard [Alun 'Sbardun' Huws] o'dd hwnnw. Ddaethon ni'n ffrindiau penna' o'r eiliad gynta'.

O'dd gan Sbardun gitâr, roedd yr un fach - yr un punt a chweigian - dal gen i. Fyddai Stan [Morgan Jones] yn canu, a dechreuon ni chwarae o gwmpas. 'Sgwennon ni Yr Hogyn Pren a galw'n hunain yn Y Tebot Piws am ryw reswm - does na ddim un ohonon ni'n cofio pwy feddyliodd am yr enw, na pam.

Oedd [Dewi Pws] yn yr ail flwyddyn yn y coleg, pan o'n i'n y gynta', ac roedden ni'n ymwybodol ohono fo, wrth gwrs, achos o'dd o'n eitha' amlwg yn y coleg. Mi roedd yn sgwennu caneuon, ac mi gynigiodd o ddwy neu dair cân i ni. Dyma ni'n penderfynu, 'pam na wnei di jest joinio ni?' - a dyna sut ddaeth y pedwar i fod efo'n gilydd.

Do'n i ddim yn byw yng Nghaerdydd - o'n i wedi symud i'r coleg ym Mangor. Oedd teithio o Fangor i lawr i rywle fel Aberteifi yn cymryd oriau. Mae'n cymryd oriau heddiw, ond o'dd y lonydd yr adeg hynny yn ddifrifol.

Ym Mangor, yn fy fflat yn gweld ar Disg a Dawn a Heno, mi fyddai'r Tebot Piws yn ymddangos, a dyna fasa'r cynta' 'swn i'n clywed am y nosweithiau 'ma!

Mynediad am Ddim

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mynediad am Ddim yn Aberystwyth

Ar ôl gadael y coleg, mi ges i swydd yn llyfrgell y dre' yn Aber, ac yn raddol mi wnes i ddechrau cymysgu efo'r myfyrwyr oedd yn yfed yn y Blingwyr. Ac Emyr Wyn, wrth gwrs yn fawr ac yn uchel ei gloch yn eu plith nhw.

Ddes i'n ffrindiau mawr efo Emyr yn y cyfnod yna, a medda fo "Dwi mewn grŵp - ti ffansi ymuno efo hi?" Es i i'w clywed nhw, ac o'n i'n licio'u sŵn nhw.

"Oes gen ti ganeuon?" Oedd fel mae'n digwydd, ac oedden nhw'n gweddu i'r grŵp a dyna sut ddechreuodd pob dim, a sut ddaeth fy nghaneuon i gael eu clywed yn fwy eang.

Mae 'na rai yn dechrau efo llinell o eiriau, eraill ella'n dechrau efo'r alaw. Dwi ddim yn gwybod lle mae rhai ohonyn nhw wedi dod. Yn ddiweddar, mae 'na ddwy gân wedi dod i mi pan dwi 'di bod yn cysgu - nes i ddeffro'n sydyn a neidio o ngwely ac o'dd rhaid i mi sgwennu o i lawr.

Os ydyn nhw'n ddigon da, gawn ni weld...

Anturiaethau i Groeg

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr yn canu mewn clwb nos yn Athen, ac yn bwyta swper rhywle yn Groeg gyda John Pierce Jones, a Rhydderch Jones gafodd hefyd ei berswadio i ymuno ar yr antur

O'n i'n byw yn nhŷ John Bŵts [John Pierce Jones], ac o'dd o a Mici [Plwm] yn sôn am fynd i ffwrdd i rywle cynnes.

"Ma' car yn mynd, a ma'r sedd gefn yn wag, waeth i chdi fod yn eistedd ynddi ddim - fydd o'm yn costio dim byd i ti." A dyna sut ddigwyddodd o.

Doedd gen i ddim syniad lle oedden ni'n mynd. Oedd gan John atlas AA a rhyw wybodaeth am y rhyfeddodau oedden ni'n mynd i'w gweld ar y ffordd - a jest dilyn ein trwynau.

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws, Emyr a Lyn Ebenezer yn mwynhau cwrw bach yn Agistri, Groeg

Ar ôl i ni gyrraedd pen y daith, campio i'r de o Corinth, sydd ddim yn ofnadwy bell o Agistri, fel mae'n digwydd.

Felly dwi'n mynd yn ôl i tua'r un ardal bob blwyddyn - efo Lyn a Jên [Ebenezer] - maen nhw wedi bod yn mynd y ddi-dor am yn agos at 30 mlynedd, ac wedi g'neud ffrindiau da dros y blynyddoedd.

Cwrdd â'r mawrion

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Lyn Ebenezer, Ronnie Drew o'r Dubliners ac Emyr yn 1999

Dwi'n licio cerddoriaeth Iwerddon, a dwi 'di licio fo ers mod i yn fy arddegau, achos adeg hynny yn Sir Fôn, oedden ni'n medru cael Radio Caroline, o'dd ar rhyw long yn rhywle - ac roedden nhw'n chwarae lot o stwff y Dubliners, ac o'n i wrth fy modd.

O'n i'n mynd efo Lyn i gyngherddau'r Dubliners, a ddaethon ni'n ffrindiau efo un neu ddau ohonyn nhw. Dweud y gwir, fuodd Lyn a fi yn nhŷ Ronnie Drew yn cael te, a chael diwrnod difyr iawn yn ei gwmni o yn mynd o gwmpas Dulyn.

Yng Nghaerdydd, o'dd [Shane MacGowan] yn digwydd bod yn westai iddyn nhw, ac ar ôl y cyngerdd aethon ni i'r cefn atyn nhw, ac o'dd o yna, a gaethon ni fynd yn ôl i'r gwesty efo nhw, a rhyfeddu. O'dd o'n foi neis ofnadwy, ond dwi'm yn gwybod sut fod o'n fyw, efo'r pethau o'dd o'n eu hyfed y noson yna!

Llanddwyn, Enlli, Shetland

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr gyda Mici Plwm ar ynys Enlli ac ar ynys Unst yn Shetland

Dwi'n licio teithio rownd ynysoedd bach distaw. Siŵr ei fod o i'w wneud efo'r ffaith mod i wedi cael fy ngeni ar ynys. Dwi'n licio'r hen deimlad 'na... ti'n teimlo'n saff rhywsut. Ti'n gwybod yn union lle mae'r ffiniau.

Distawrwydd, ca'l mynd oddi wrth y byd a'i bobl a'i sŵn am ychydig. A jest mynd yn ôl i fyw yn syml.

Llanddwyn gynta' - er mai dim ond weithiau mae honna'n ynys - ac Enlli a Shetland, yn y drefn honno.

O'n i'n gwybod fod 'na gerddoriaeth yn Shetland - ac o'n i isho mynd yna rhyw ddiwrnod. Ond mae o'n bell ofnadwy. Ond mi 'nath Mici a fi lwyddo i fynd bob blwyddyn o 1995 i 2011.

Mae o'n lle mawr, ac mae 'na lot o lefydd gwag yna. Mae'n hyfryd yno.

Chwerthin gyda Sbardun

Ffynhonnell y llun, Emyr Huws Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr a Sbardun yn San Francisco

Dwi'm 'di teithio'n bell iawn, ar wahân i America. O'dd Sbardun wedi gweld rhyw gwmni o'r enw Great Railway Journeys - croesi America mewn trên, o Efrog Newydd i San Francisco a lot o lefydd rhwng y ddau le.

Anhygoel o drip. Efo Sbard drwy'r dydd, bob dydd am dair wythnos, a dim un gair croes, mond lot o chwerthin.

Fydda i'n meddwl yn aml iawn am leins doniol, a meddwl 'fysa Sbard yn licio'r lein yna'. Alla' i glywed o, achos oedd gan Sbard y chwerthiniad mwya' anhygoel - alla i ddim disgrifio ei chwerthiniad o. O'dd o'n gneud i bawb chwerthin wrth ei glywed o.

O'dden ni'n gwneud i'n gilydd chwerthin drwy'r amser. Dwi'n colli hynny yn fawr iawn.

Hefyd o ddiddordeb: