'Dim cywilydd mewn derbyn bod gen ti broblem iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Siôn JenkinsFfynhonnell y llun, ITV

Mae nifer ohonom yn gallu dioddef gyda'n iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau, ond nid yw'n hawdd bob tro i drafod y peth.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r cyflwynydd teledu, Siôn Jenkins, wedi dioddef â gorbryder gwael. Penderfynodd rannu ei brofiad, a dysgu mwy am brofiadau dynion eraill, yn y rhaglen arbennig ar S4C, Ein Byd:Tu ôl i'r wên, nos Sul 16 Chwefror.

Yma mae'n egluro pam ei bod hi'n bwysig i fod yn agored:

'Os gwneud hi, gwneud hi'n iawn'

Doedd e ddim yn benderfynaid rhwydd i wneud y rhaglen 'ma.

Wnes i drafod y peth yn drylwyr gyda fy nghynhyrchydd a'm ffrind, Bethan Muxworthy, cyn penderfynu, 'os gwneud hi, gwneud hi'n iawn'.

O'n i'n teimlo fel 'mod i mewn lle da i allu rhannu fy mhrofiad i yn y gobaith o helpu dynion eraill a gwneud i bobl sylweddoli bod problemau iechyd meddwl yn gallu digwydd i unrhywun, hyd yn oed rheiny ohonon ni sy'n ymddangos yn hollol hyderus (ac yn gwneud bywoliaeth allan o hynny!)

Meddyliais i, 'os nad yw rhywun fel fi yn fodlon siarad am y peth yn gwbl agored, yna pwy sydd?'

Mae'r holl beth 'di bod yn brofiad gwahanol iawn. Fel dwi'n dweud yn y rhaglen, fel arfer, dwi'n mynd o gwmpas yn treial cael pobl i rannu'u straeon personol gyda fi ar Ein Byd; ond, y tro 'ma, fi sy'n rhannu fy stori bersonol i.

Doedd e ddim o reidrwydd yn rhywbeth anodd i wneud (byddai unrhywun sy'n 'nabod fi'n dda yn dweud 'mod i wastad yn hapus i barablu 'mlaen am rywbeth neu'i gilydd!), ond o'n i'n benderfynol fod y rhaglen ddim yn mynd i fod yn un self-indulgent a jyst amdana i.

O'n i am edrych ar y sefyllfa yn ei chyfanrwydd a mynd ar ryw fath o siwrnai i gwrdd ag eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl.

'Ymateb anhygoel'

'Dw'i erioed 'di bod mor nerfus cyn darllediad un o fy rhaglenni o'r blaen.

O'n i'n poeni'n fawr am sut o'dd pobl yn mynd i ymateb i'r rhaglen. Yr hyn o'dd yn poeni fi fwyaf - bod pobl yn mynd i deimlo fel bod rhaid iddyn nhw drin fi'n wahanol neu fod yn fwy gofalus ohona i neu o'm cwmpas i ar ôl y rhaglen. Diolch byth, 'dw'i 'di gweld doedd dim rhaid i fi boeni am hynny o gwbl.

Fel mae'n digwydd, o'n i'n trafeilu nôl o benwythnos gyda ffrindiau ddydd Sul, felly o'n i ar drên yn ystod y darllediad. Cerddais i drwy ddrws y tŷ yng Nghaerdydd jyst ar ôl i'r rhaglen orffen, ac aeth ffôn fi'n nyts.

Dw'i erioed 'di cael ymateb tebyg - ma'i 'di bod yn anhygoel ac yn eitha' overwhelming, dweud y gwir. Yr hyn sydd wedi cyffwrdd â fi fwyaf yw'r negeseuon dw'i 'di derbyn gan ddieithriaid yn sôn gymaint mae'r rhaglen wedi'u helpu nhw.

O'dd dydd Llun yn ddydd emosiynol iawn yn pori drwy'r negeseuon i gyd. 'Dw'i dal heb ddala lan yn iawn gyda phob neges ar Facebook, Twitter ac Instagram, ond 'dw'i mor, mor ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i gysylltu.

Mae gonestrwydd a charedigrwydd pobl wedi fy llorio i.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siôn Jenkins gyfle i sgwrsio ag eraill am eu profiadau gyda'u hiechyd meddwl, gan gynnwys criw o ddynion o ardal Pontypridd sydd yn cwrdd yn gyson i sgwrsio'n agored

'Siarad yw'r peth gorau i wneud'

Dw'i lot yn well erbyn hyn ac yn llwyddo i gadw fy ngorbryder dan reolaeth. Dyw e ddim wedi mynd i ffwrdd yn gyfan gwbl - mae'n rhan ohonof i erbyn hyn, a 'dw'i 'di derbyn hynny.

Mater o edrych ar ôl fy hun ac atgoffa fy hun 'mod i'n iawn ac yn lwcus iawn i gael y gefnogaeth sydd gen i yn fy mywyd yw hi nawr.

Dw'i am i reiny sydd â rhyw fath o bŵer yn y wlad 'ma weld bod angen gwella pethau, achos mae'r sefyllfa bron yn argyfyngus, yn fy marn i.

Ond, yn fwy nag unrhyw beth arall, 'dw'i jyst mo'yn i bobl, yn enwedig dynion, weld bod ddim cywilydd mewn derbyn bod gen ti broblem iechyd meddwl, ac mai siarad yw'r peth gorau i wneud i ddechrau'r broses o wella.

Hefyd o ddiddordeb: