Mwy o rybuddion am law trwm dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yng nghanol Pontypridd fore dydd Sul wedi'r storm

Does dim disgwyl i'r tywydd gwlyb diweddar ddiflannu gyda rhybuddion newydd wedi ei gyhoeddi am law trwm ar draws Cymru dros y dyddiau nesaf.

Daw'r rhybudd cyntaf i rym am hanner dydd ddydd Gwener yng ngogledd Cymru. Mae disgwyl i 20-30 mm o law ddisgyn mewn ardaloedd uwch gyda 60-80 mm yn bosib mewn ambell i le.

Mae yna berygl o lifogydd eto allai achosi difrod, ac mae'r rhybudd melyn mewn grym tan 03:00 fore Sadwrn.

Yng nghanolbarth a de Cymru mae rhybudd o law cyson, allai ar brydiau fod yn drwm fore Sul.

Daw'r rhybudd yna i rym am 03:00 fore Sul, gan bara tan 15:00 y prynhawn gan ddod â 20-40mm o law i lawer gyda hyd at 50-60mm ar dir uchel.

Mae yna bosibilrwydd o lifogydd eto ac fe allai'r tywydd ar wasanaethau trên a bysiau.

Ymweliad brenhinol

Mae'r Tywysog Charles wedi ymweld â phobl a busnesau sydd wedi dioddef effaith llifogydd yn dilyn Storm Dennis ddydd Gwener.

Cafodd dros 1,000 o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan y dilyw yn ardal Rhondda Cynon Taf, wedi glaw trwm wythnos diwethaf.

Fe wnaeth y tywysog yn ymweld â chanol tref Pontypridd i gyfarfod trigolion a pherchnogion busnesau gafodd eu difrodi gan y llifogydd.

Roedd eisoes wedi trefnu i fynd i ffatri Aston Martin yn Saint Athan, Bro Morgannwg ond cafodd ei ymweliad ei ymestyn er mwyn cynnwys taith i ardaloedd y llifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Charles ar ei ymweliad â Phontypridd ddydd Gwener

Fe wnaeth y Tywysog Charles hefyd ymweld â hosbis Marie Curie ym Mhenarth a ffatri drenau yng Nghasnewydd fel rhan o'i ymweliad ddydd Gwener.

Yn ddiweddarach aeth i ganolfan cynnal a chadw British Airways ym Maes Awyr Caerdydd i ddathlu canmlwyddiant y cwmni.