20 mlynedd ers cap cynta' Shane

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ar 22 Chwefror mae Cymru'n herio Ffrainc yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2020.

Ond y gêm gyfatebol yn 2000 roedd asgellwr ifanc o'r enw Shane Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.

Mewn cyfnod lle'r oedd llawer o dimau rhyngwladol yn chwarae asgellwyr enfawr fel Jonah Lomu ac Émile Ntamack, roedd Shane yn chwaraewr bach o ran maint, yn 5' 7" o daldra ac yn pwyso 11 stôn.

Ond er iddo gael ei ddiystyru gan rai ar ddechrau ei yrfa oherwydd ei faint, aeth ymlaen i fod yn un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed o Gymru, gan ennill tlws Chwaraewr Rygbi Gorau'r Byd yn 2008.

Enillodd Shane 87 o gapiau dros Gymru, gan sgorio 58 o geisiau rhwng 2000-11, ac mae'n parhau i fod yn un o'r ffefrynau ymysg cefnogwyr rygbi Cymru.

  • Cliciwch uchod i wylio'r fideo

Hefyd o ddiddordeb: