Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 23-27 Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Romain NtamackFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Romain Ntamack sgoriodd 17 o bwyntiau Ffrainc, gan gynnwys ei gais o ryng-gipiad

Mae gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn deilchion wedi iddyn nhw gael eu trechu gan Ffrainc mewn gêm agos yn Stadiwm Principality.

Aeth Cymru ar y blaen o fewn pedwar munud, gyda Dan Biggar yn gywir gyda chic gosb yn dilyn trosedd gan y prop Cyril Baille.

Ond y Ffrancwyr sgoriodd gais gynta'r gêm yn fuan wedi hynny, wrth i'r cefnwr Anthony Bouthier fanteisio ar y cyfle wedi i Leigh Halfpenny fethu â chasglu cic uchel.

Roedd Romain Ntamack yn gywir gyda'i drosiad, ac fe gafodd y tîm cartref ergyd gynnar arall trwy golli'r asgellwr George North yn dilyn ergyd i'w ben.

Ychwanegodd Ntamack dri phwynt i'r ymwelwyr yn dilyn trosedd gan Dillon Lewis, cyn i Biggar ymateb gyda gôl gosb i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i George North adael y maes yn dilyn ergyd arall i'w ben

Roedd Gael Fickou yn credu ei fod wedi sgorio ail gais y Ffrancwyr wedi 28 munud, cyn i'r dyfarnwr teledu benderfynu fod pas wedi mynd ymlaen wrth i Ffrainc dorri trwy amddiffyn Cymru.

Ond eiliadau'n unig yn ddiweddarach fe ddaeth eu hail gais, gyda'r clo Paul Willemse yn croesi'r gwyngalch yn bwerus cyn i Ntamack drosi'r ddau bwynt ychwanegol.

Fe gafodd Cymru gyfnod da i gloi'r hanner cyntaf, gyda Biggar yn sgorio gôl gosb cyn i'r wythwr Ffrainc, Gregory Alldritt weld cerdyn melyn yn dilyn nifer o rybuddion am droseddu gan y dyfarnwr Matthew Carley.

Er y pwysau dim ond y tri phwynt o droed Biggar gafodd ei ychwanegu at y sgôr yn dilyn gwaith amddiffynnol gwych gan Ffrainc, gan olygu bod yr ymwelwyr ar y blaen o 17-9 ar hanner amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Willemse sgoriodd ail gais y Ffrancwyr

Daeth cais cyntaf Cymru wedi 48 munud, gyda'r prop Dillon Lewis yn croesi wrth y pyst i sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf, ac fe ychwanegodd Biggar drosiad hawdd i ddod â Chymru o fewn pwynt i'r ymwelwyr.

Ond o fewn ychydig funudau fe lwyddodd Ntamack i sgorio cais ar ôl rhyng-gipio pas gan Nick Tompkins, ac ychwanegodd y trosiad i adfer mantais wyth pwynt y Ffrancwyr.

Ychwanegodd maswr Ffrainc gôl gosb yn dilyn trosedd arall gan Lewis, cyn i glo Wasps, Will Rowlands ddod ymlaen am Jake Ball i ennill ei gap cyntaf dros Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cais Dillon Lewis oedd ei gyntaf dros Gymru

Fe gafodd Ffrainc eu hail gerdyn melyn o'r gêm gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, gyda Mohamed Haouas yn gadael y maes yn dilyn pwysau gan Gymru yn y sgrym.

Llwyddodd Cymru i gymryd mantais, gyda Biggar yn croesi am gais wedi iddyn nhw dorri trwy amddiffyn Ffrainc, ac ychwanegodd y trosiad i ddod o fewn pedwar pwynt i'r gwrthwynebwyr.

Er i'r eilydd Mathieu Jalibert fethu gyda chyfle i ymestyn mantais Ffrainc gyda chic gosb yn y munudau, roedd Ffrainc eisoes wedi gwneud digon i ennill y gêm a chadw eu gobeithion am Gamp Lawn yn fyw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf cais hwyr Dan Biggar roedd Ffrainc eisoes wedi gwneud digon i ennill y gêm

Amserlen y gemau

Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon 24-14 Cymru

Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru 23-27 Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban