Cyhuddo'r heddlu o hiliaeth yn achos marwolaeth bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen ifanc a foddodd mewn afon wedi cyhuddo Heddlu'r De a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) o hiliaeth sefydliadol am na chafodd unrhyw un eu cyhuddo mewn cysylltiad â'i farwolaeth.
Cafodd corff Christopher Kapessa, 13, ei ganfod yn Afon Cynon, Fernhill, Aberpennar ar 1 Gorffennaf 2019.
Daeth ymchwiliad gan Heddlu'r De i'r casgliad nad oedd ei farwolaeth yn un amheus.
Yn dilyn cwyn gan deulu Christopher, cyhoeddodd yr heddlu bod eu tîm ymchwilio troseddau mawr yn edrych ar yr achos, a bod y gŵyn wedi ei chyfeirio at y Swyddfa Annibynnol am Ymddygiad yr Heddlu (SAYH). Mae'r Swyddfa'n parhau gyda'r ymchwiliad hwnnw.
Ar y pryd, dywedodd mam Christopher, Alina, a'i theulu: "Rydym yn deall bod yr ymchwiliad yn ymdebygu i ymchwiliad o ddynladdiad."
Ond mewn llythyr i'r teulu, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, dywedodd y CPS nad oedd hi yn "niddordeb y cyhoedd" i fwrw 'mlaen ag achos o ddynladdiad yn erbyn bachgen a oedd, yn eu barn nhw, wedi gwthio Christopher i'r afon.
Mae Heddlu'r De a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi mynegi eu cydymdeimlad gyda'r teulu wrth geisio egluro'r penderfyniad i beidio erlyn.
Elfen o hiliaeth
Mewn cynhadledd i'r wasg fore Llun, dywedodd llefarydd ar ran y teulu eu bod nhw wedi derbyn llythyr oddi wrth Wasanaeth Erlyn y Goron ganol mis Chwefror eleni yn dweud eu bod nhw wedi adolygu'r dystiolaeth a "bod tystiolaeth ddigonol i gefnogi cyhuddiad o ddynladdiad anghyfreithlon".
Fe ddywedon nhw bod y bachgen o dan sylw "yn aeddfed ac yn alluog" a bod ganddo "record ysgol dda".
Yn y llythyr, sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru, mae'r CPS yn dweud bod yna "dystiolaeth glir fod rhywun wedi gwthio Christopher yn ei gefn gyda'u dwy law gan achosi iddo syrthio i'r afon".
"Roedd y weithred honno o wthio yn weithred anghyfreithlon ac roedd yn amlwg yn beryglus."
Roedd hefyd yn dweud bod y dystiolaeth yn awgrymu nad oedd y weithred o wthio "yn un bwriadol er mwyn anafu rhywun" ond nad oedd yn "symudiad craff".
Roedden nhw wedi dod i'r casgliad, meddai, "na ddylai'r unigolyn o dan sylw, sydd ddim yn gallu cael ei enwi am ei fod yn berson ifanc, gael ei gyhuddo o ddynladdiad".
Dywedodd Alina Joseph, mam Christopher Kapessa: "O'r dechrau, mae Heddlu De Cymru wedi methu ag ateb llawer o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol sydd gyda ni.
"Pe bai hyn wedi bod yn 14 bachgen du ac un dioddefwr gwyn nid oes gennym unrhyw amheuaeth y byddai dull yr heddlu a'r canlyniad wedi bod yn wahanol.
"Rydym yn gwybod bod aelodau teulu'r 14 o bobl ifanc dan sylw wedi mynnu bod yr heddlu'n dod i gyfweld â'u plant, ac roedd eu tystiolaeth nhw yn wahanol iawn i'r hyn sy'n cael ei adrodd gan y pedwar llanc sydd o dan sylw.
"Rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu tosturi a'u hymrwymiad i gyfiawnder.
"Mae'r penderfyniad a wnaed gan Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ein gadael yn teimlo'n ddryslyd ac yn ddryslyd ynghylch sut y gall rhai ddweud celwydd am farwolaeth fy mab, gan beri mwy o boen a phryder i ni am yr wyth mis diwethaf.
"Roedd Christopher yn haeddu cyfiawnder am beth digwyddodd iddo. Rydyn ni wedi cael ein methu gan y system."
Dywedodd cyfreithiwr y teulu, Hilary Brown: "Mae penderfyniad y CPS yn siomedig yng ngoleuni'r ffaith eu bod wedi cadarnhau bod y trothwy tystiolaethol wedi'i fodloni i ddwyn cyhuddiad o ddynladdiad yn erbyn dyn ifanc.
"Bu farw Christopher nid o ganlyniad i 'ddamwain drasig', fel yr oedd Heddlu'r De wedi dod i'r casgliad, ond o gael ei 'wthio' i'r afon."
Mae Lee Jasper, o Gyfreithwyr BAME, wedi cymharu'r achos â'r modd y cafodd ymchwiliad llofruddiaeth Stephen Lawrence ym 1993 ei drin, ac ychwanegodd fod system gyfiawnder Prydain yn "loteri hiliol".
Mae sawl grŵp ymgyrchu, gan gynnwys Cynghrair Hiliaeth Cymru, 'Stand Up To Racism' Caerdydd , 'Women Connect First' a 'Chymdeithas Menywod Du yn Camu Allan' i gyd wedi mynegi eu pryder ynglŷn â'r ffordd y mae'r heddlu wedi ymdrin â marwolaeth Christopher.
Ymateb
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: "Cafodd ffeil lawn o dystiolaeth ei gyflwyno i'r CPS gan dîm ymchwilio troseddau mawr Heddlu'r De ar ddiwedd ymchwiliad cymhleth a heriol dros ben.
"Cafodd ystafell ymchwilio ei sefydlu gan dîm o dditectifs a aeth ymlaen i gasglu 170 o ddatganiadau a holi 54 o blant wrth iddyn nhw weithio'n ddiflino i ganfod y ffeithiau arweiniodd at farwolaeth Christopher.
"Nodwn benderfyniad y CPS, ac yn y cyfnod anodd hwn rydym yn cydnabod y boen a'r galar y mae teulu Christopher yn teimlo ar ôl colli bachgen ifanc mewn amgylchiadau trasig.
"Mae ein cefnogaeth iddyn nhw yn parhau fel y gwnaeth drwy gydol yr ymchwiliad."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Mae penderfyniadau mewn achosion fel hyn yn anodd, a rhaid barnu pob achos yn unigol.
"Fel ymhob achos rhaid pasio prawf tystiolaeth a phrawf diddordeb cyhoeddus cyn bwrw 'mlaen gydag erlyniad.
"Wrth ddod i benderfyniad, fe roddwyd ystyriaeth ofalus i'r gyfraith mewn perthynas ag erlyn pobl dan oed, ac ni chafodd meini prawf diddorddeb cyhoeddus eu cwrdd.
"Mae ein meddyliau gyda theulu Christopher. Rydym wedi rhoi eglurhad llawn iddyn nhw o'r broses benderfynu yn yr achos trasig yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019