'Roedden ni i gyd yn meddwl y byd o Paul'
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau yn Ynys Môn wedi rhybuddio y gallai diffyg llety argyfwng i bobl ddigartref fod yn peryglu bywydau mewn ardaloedd gwledig.
Yn ôl ystadegau swyddogol, mae marwolaethau ymhlith y rhai sydd heb do uwch eu pennau ar gynnydd.
Dywedodd elusen Digartref, sy'n gweithio yn Sir Fôn, bod digartrefedd gwledig wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fis diwethaf cafwyd hyd i gorff dyn digartref, Paul Hughes, yn Llangefni ac mae ei deulu'n parhau i chwilio am atebion.
Niferoedd ar gynnydd
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn nodi fod 34 person digartref wedi marw yng Nghymru yn 2018 - y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnod yn 2013.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi'n llwyr i ddod â digartrefedd i ben, ac os nad oes modd ei osgoi yna eu bod am "sicrhau ei fod yn rhywbeth prin, byr a heb ei ailadrodd".
Yn ôl Ffion Moffett, sy'n gweithio i elusen Digartref, does dim lloches brys dros nos i bobl dros 25 oed ym Môn, ac mae hynny'n golygu bod rhai sydd eisoes yn fregus weithiau'n cael eu gorfodi i'r stryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn eu bod nhw'n cynnig ystod eang o lety argyfwng i'r rheiny sydd yn ddigartref a dros 25 oed - sef gwely a brecwast, tŷ neu fflat a chefnogaeth.
Ar 10 Ionawr cafodd corff Paul Hughes ei ddarganfod ar safle hen siop yn Llangefni.
Bu'r dyn 35 oed yn byw ar y strydoedd am sawl wythnos cyn ei farwolaeth gyda dim byd ond pabell yn gysgod iddo rhag y tywydd gaeafol.
Dywedodd Barbara Roberts o elusen Kaleidoscope wrth raglen Newyddion fod Paul yn "ŵr bonheddig" a'i "ofid pennaf oedd marw yn ei babell".
Bu hi'n ceisio cefnogi Paul, oedd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol a sylweddau eraill yn y gorffennol, tra'i fod yn cysgu ar y stryd yn Llangefni.
"Mae 'na ddiffyg llety brys i rywun fynd iddo fo dros dro tra bod eu problemau yn cael eu datrys a llety parhaol yn cael ei ganfod," meddai.
"Dyna sydd ei angen fan hyn. Does dim hostels yma, dim hosteli digartref i bobl dros 25 oed."
Mae brawd Paul, Matthew, yn byw yng Nghaernarfon.
Cawson nhw, ynghyd â'u brawd Joe, eu magu ym Mhenygroes. Yn 2015, bu farw eu tad ac fe gafodd hynny effaith fawr ar Paul, yn ôl Matthew.
"Dwi'n meddwl 'naeth Paul newid ychydig ar ôl i'n tad basio ffwrdd," meddai ei frawd.
"'Naeth o fynd ar downward spiral. Oedd o isio cymryd prescription medication ac oedd o'n really addicted i rheina at boen yn cefn i ddechrau.
"O'n i'n dechrau amau fod o'n cymryd math arall o gyffur.
"Do'dd o ddim ei hun am ddyddiau ond oedd o'n iawn am ychydig ac wedyn nôl."
Ar ôl marwolaeth eu tad, bu Matthew a Paul yn byw gyda'i gilydd. Ond yn ôl Matthew, roedd Paul yn mynd i helynt yn rheolaidd.
Penderfynodd Matthew adael y cartref gan barhau i dalu rhent ei frawd am rai misoedd, ond yn y pen draw bu'n rhaid i Paul adael y tŷ oherwydd ei ymddygiad.
Symudodd i fyw at ei fam yn Sir Fôn am gyfnod, ond aeth yn ddigartref eto'n fuan.
Ar ôl dwyn o siop ym Môn, cafodd ei garcharu ym mis Hydref llynedd am 16 wythnos.
Roedd yn y carchar pan glywodd fod ei fam hefyd wedi marw.
"Roedd ganddyn nhw berthynas dda iawn," meddai Matthew
"Dwi'n meddwl bod Paul wedi cael tipyn o hiraeth ar ôl i Mam basio."
Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar fe wnaeth Cyngor Môn ganfod llety iddo mewn gwesty gwely a brecwast.
Ond wedi iddyn nhw ei hysbysu nad oedd yn cadw at y rheolau, maen nhw'n dweud iddo dynnu ei gais am lety yn ôl.
'Angen atebion'
Derbyniodd becyn cysgu ar y stryd gan elusen sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r cyngor a bu'n byw dan gynfas ei babell yn Llangefni am rai wythnosau.
Ar 10 Ionawr cafodd ei gorff ei ddarganfod mewn adfail hen siop yn y dref.
Mae Matthew yn dweud bod yr amodau y bu i'w frawd fyw a marw ynddyn nhw yn "warthus" a bod "angen atebion" ynghylch sut y bu iddo farw mewn amgylchiadau o'r fath.
"Yn y misoedd diwethaf o fywyd Paul o'dd o'n trio gwella. Roedd o'n gofyn am help," meddai Matthew.
"Ond dydy hyn ddim yn help. Mae o jesd mor drist.
"'Sw'n i'n gwybod bod brawd fi angen help, sŵn i wedi helpu, 'sa fy ngwraig wedi helpu a theulu eraill. O'n ni gyd yn meddwl y byd o Paul.
"Do'dd o ddim yn angel, ond 'swn ni ddim wedi gadael iddo fo syffro."
Mae cais wedi'i wneud i Gyngor Môn am ymateb i'r honiad o ddiffyg lloches brys.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi i ddod â digartrefedd i ben neu o leiaf ei wneud yn rhywbeth prin, byr a heb ei ailadrodd.
Ychwanegodd y bydd ail adroddiad yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth yn amlinellau polisïau i wireddu hyn.
"Rydym wedi gwarchod cyllidebau angenrheidiol, gan gynnwys cymhorthdal o £126m i'r Grant Cymorth Tai, ar gyfnod pan mae gwariant dan bwysau o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU," meddai'r llefarydd.
"Rydym yn cefnogi'r angen i gefnogi gwasanaethau sy'n ceisio atal pobl rhag colli eu cartrefi, a'u caniatáu i fyw a ffynnu yn eu cartrefi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020