Astudio pam fod rhai pobl yn goroesi canser

  • Cyhoeddwyd
Francis Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Francis Davies fod gan yr astudiaeth botensial "anferthol"

Dyn sydd wedi goroesi pedwar math gwahanol o ganser yw'r gwirfoddolwr cyntaf i roi gwaed ar gyfer astudiaeth sydd yn ceisio darganfod pam fod rhai pobl yn goroesi'r afiechyd.

Dywedodd Francis Davies o Abertawe ei fod yn beth "cyffrous" i fod yn rhan o'r cynllun i astudio ei waed ar lefel folecwlar.

Y sefydliad Continuum Life Sciences sydd yn gyfrifol am yr astudiaeth, ac mae'r corff wedi ei sefydlu gan Dr James Hull o Gasnewydd, sydd ei hun wedi goroesi canser.

Mae tua 450 o wirfoddolwyr sydd wedi goroesi dros gyfnod hir wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yn yr astudiaeth.

Rhannu data

Bydd gwaed y gwirfoddolwyr yn cael ei astudio gyda'r data'n cael ei rannu gyda gwyddonwyr mewn chwe phrifysgol er mwyn ceisio esbonio pam eu bod wedi llwyddo i oroesi canser.

Wrth roi gwaed ym Mhrifysgol Abertawe, dywedodd Mr Davies o ardal West Cross yn y ddinas ei fod am fod o gymorth i eraill gan ei fod wedi cael trafferth ymdopi gyda thriniaethau ar gyfer canser y prostad, melanoma a thyroid.

Fe glywodd mai dim ond chwe mis oedd ganddo i fyw wyth mlynedd yn ôl, ond bellach mae'n holliach.

Dywedodd fod ymdopi gyda chanser yn gallu bod yn "emosiynol iawn" ac roedd effeithiau'r triniaethau'n gallu bod yn "eithaf gwael".

"Mae'r potensial yn anferthol", meddai, wrth drafod yr astudiaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dr James Hull yn rhoi gwaed ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Llun

Mae arweinydd yr astudiaeth, Dr Hull, wedi gorfod ymdopi gyda chanser y coluddyn, croen, cefndedyn (pancreas) ag afu dros y 10 mlynedd diwethaf.

Roedd wedi derbyn cyngor i gael trefn ar ei fywyd a ffarwelio gyda'i deulu sawl gwaith yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'n credu y gall pobl sydd wedi goroesi am fwy na phum mlynedd ar ôl cael diagnosis fod yn hanfodol bwysig i ddatblygu iachâd i'r cyflwr.

"Os allwn ni ddarganfod hynny, yna fe gawn syniad am yr hyn y gallwn ei ddatblygu i therapïau a brechlynnau i'r dyfodol", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Matthew Maynard hefyd yn cyfranu tuag at yr astudiaeth

Mae Matthew Maynard, prif hyfforddwr clwb criced Morgannwg hefyd wedi rhoi gwaed ar gyfer yr astudiaeth gan nad oes hanes o ganser yn ei deulu.

"Bydd rhoi sampl heddiw, gobeithio, yn helpu gwyddoniaeth a gweld ble mae'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau", meddai.

Esboniodd yr Athro Steve Conlan, o Brifysgol Abertawe y byddai'r astudiaeth yn edrych ar enomau celloedd gwaed pobl sydd wedi goroesi er mwyn ceisio darganfod yr hyn oedd efallai wedi eu cynorthwyo'n fiolegol.

"Byddwn yn defnyddio ein cyfrifiaduron grymus iawn i fesur cronfa anferth o ddata yn y cleifion hynny a'i ddwyn at ei gilydd," meddai.

Mae Dr Hull yn ariannu'r cynllun ar y cyd a chwe phrifysgol arall yn y DU, gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd.