Josh Adams allan o weddill y Chwe Gwlad gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Fe geisiodd Adams barhau i chwarae yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn er gwaethaf ei anaf

Bydd Josh Adams yn colli'r ddwy gêm sydd gan Gymru'n weddill yn y Chwe Gwlad gydag anaf i'w bigwrn.

Fe gafodd asgellwr y Gleision ei anafu yn y golled i Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae'n golygu na fydd ar gael i chwarae yn erbyn Lloegr na'r Alban fis nesaf.

Mae Adams wedi sgorio 10 cais yn ei 10 ymddangosiad rhyngwladol diwethaf.

Nid yw'n glir pa mor ddifrifol ydy'r anaf.

Amserlen y gemau

Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon 24-14 Cymru

Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru 23-27 Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban