Webb yn symud - Liam Williams yn ôl gyda'r Scarlets
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi y bydd Liam Williams yn ailymuno â'r rhanbarth yn gynt na'r disgwyl.
Roedd y cefnwr eisoes wedi dweud y byddai'n gadael y Saracens ar ddiwedd y tymor i ddychwelyd i Gymru.
Ond fore Mawrth fe wnaeth y Scarlets gyhoeddi y byddai'n dychwelyd yn syth.
Gan ei fod newydd wella o anaf a gafodd yng Nghwpan Rygbi'r Byd, mae'r Scarlets yn disgwyl clywed a fydd yn cael ei rhyddhau o garfan Cymru fel y gall chwarae i'r rhanbarth yn y Pro14 ar 29 Chwefror.
Yn y cyfamser mae mewnwr Cymru a'r Llewod, Rhys Webb wedi ymuno â chlwb Caerfaddon am weddill y tymor rygbi presennol.
Ym mis Rhagfyr, cafodd Webb ei ryddhau o'i gytundeb gyda chlwb Toulon yn Ffrainc, a hynny flwyddyn yn gynnar am resymau teuluol.
Wedi hynny fe gafodd ganiatâd arbennig i fod ar gael i chwarae i Gymru unwaith eto ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cyn hynny, nid oedd yn gymwys i gynrychioli'i wlad oherwydd rheol Undeb Rygbi Cymru am ddewis chwaraewyr oedd yn chwarae y tu allan i Gymru.
Roedd eisoes wedi arwyddo i ddychwelyd i'r Gweilch ar gytundeb dwy flynedd, ond dyw'r cytundeb hwnnw ddim yn dod i rym tan y tymor nesaf.
Mae'n symud i Gaerfaddon ar unwaith, ac fe fydd ar gael i'r clwb yn eu gêm nesaf yn erbyn Bristol Bears ar ddydd Sul, 1 Mawrth.
Mae'n aneglur a fydd hyn yn ei alluogi i barhau i chwarae dros Gymru yng ngweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Does dim sylw wedi dod gan URC hyd yma.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2019