Galw am warchod adeilad hen ysbyty Aberteifi
- Cyhoeddwyd
Bydd trigolion Aberteifi yn cael cyfle ddydd Sadwrn i weld cynlluniau i ddatblygu hen safle ysbyty'r dref yn swyddfeydd i gymdeithas dai.
Dywed Tai Wales and West eu bod hefyd am godi hyd at 40 o dai di-garbon i bobl oedrannus.
Ond mae rhai yn dadlau y dylid cadw rhan o'r adeilad oherwydd ei bwysigrwydd pensaernïol.
Mae hanesydd lleol wedi galw am warchod rhan o'r ysbyty gafodd ei godi gan y pensaer enwog John Nash yn y 18fed ganrif.
Doedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddim yn fodlon datgelu a ydy'r safle'r ysbyty, sydd bellach wedi cau, wedi cael ei werthu neu beidio.
Yn ôl AS Ceredigion, Elin Jones, fe fyddai'n bosib datblygu'r safle tra hefyd yn gwarchod rhannau o'r adeilad.
Mae'r hanesydd lleol Glenn Johnson yn dweud fod yr adeilad ar "safle priordy canoloesol Aberteifi ddechreuodd tua 1158, felly safle pwysig yn archeolegol".
"Hefyd, mae'r adeilad presennol wedi dechrau fel plasty gan y pensaer John Nash a ni'n credu taw dyma un o'i adeiladau cynharaf," meddai.
"A'r trydydd peth yw pan brynodd pobl y dref y plasty, fe godwyd arian i greu ysbyty goffa rhyfel, ac rwy'n credu bod angen cadw hynny'n y dyfodol.
"Mae teimladau cryf iawn yn y dref ac mae'n bwysig i'r cwmni a phobl y dref i weithio gyda'i gilydd."
Yn ôl Elin Jones, yr Aelod Cynulliad lleol, mae'n bosib cael datblygiad ar y safle, tra hefyd yn gwarchod hanes unigryw'r adeilad.
"Mae'r safle'n bwysig i dref Aberteifi, mae'n arwain mewn i'r dref," meddai.
"Mae'n beth da bod yna gyfarfod agored ar sut i greu swyddi a chael tai ar gyfer pobl hŷn yn enwedig.
"Yr hyn sydd yn bwysig yw bod y dyluniad yn bwysig, ac mae yna ddiddordeb cadw'r bensaernïaeth wreiddiol.
"Mae hen hanes yr ysbyty'n bwysig oherwydd mae'n adrodd rhan o hanes tref Aberteifi, ac mae'n bosib parchu'r gwreiddiol ond creu cyfleusterau newydd o'i gwmpas."
Mae'r hen ysbyty wedi'i lleoli ar lannau Afon Teifi, ger Pont y Priordy.
Ychwanegodd Ms Jones: "Fe fydd rhaid i Wales and West a'r broses gynllunio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gwbl hyderus nad yw sut mae'r safle yn cael ei dylunio yn rhoi bywydau mewn peryg o ran y swyddfeydd a'r tai ar gyfer yr henoed."
Mae Dirprwy Faer Aberteifi, Clive Davies, wedi galw am drafodaeth drwyadl rhwng Wales and West a'r gymuned leol.
"Pwy ddylai gymryd drosodd perchnogaeth y safle? Dwi'n gobeithio byddan nhw yn gwrando," meddai.
"Yr ail gwestiwn yw hanes y lle. Mae rhan o'r adeilad yn un o rhai cynharaf John Nash. Gobeithio gallwn ni gydweithio fel cymuned a chael mewnbwn."
Doedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddim yn fodlon datgelu a ydy'r safle wedi cael ei werthu neu beidio, gan gyfeirio bob ymholiad at y cyngor sir.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Rydym yn ymwybodol bod sesiwn galw heibio gyhoeddus i'w chynnal yn Aberteifi.
"Byddwn yn disgwyl i ddarpar ddatblygwr gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio â rhanddeiliaid perthnasol cyn cyflwyno cais cynllunio."
Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu ar gyfer Wales and West Housing yng Nghastellnewydd Emlyn: "Rydym yn dymuno symud ein swyddfeydd a darparu 35-40 o gartrefi di-garbon ac o ansawdd uchel ar gyfer pobl hŷn yn benodol.
"Mae'r lleoliad yn wych, mae mor agos i ganol y dref a'r afon, ac rydym yn awyddus i glywed safbwyntiau pobl er mwyn cyfrannu at ein cynlluniau.
"Mae'n ddyddiau cynnar i'n cynigion o hyd.
"Nid oes gennym unrhyw gynlluniau manwl i'w dangos, ond trwy gynnal digwyddiad agored, rydym yn dymuno cynnig y cyfle i bobl leol alw heibio i gael sgwrs.
"Hoffem glywed eu syniadau ar gyfer y safle a hoffem gael eu hadborth."
Mae Tai Wales & West yn berchen ar dros 1,500 o gartrefi yng ngorllewin Cymru ac mae wedi buddsoddi dros £12m dros y tair blynedd ddiwethaf yn gwella'r cartrefi hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gynhesach ac yn fforddiadwy.
Cynhelir y sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref, Aberteifi, rhwng 14.30 a 17:00 ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2019