Elizabeth a Jan Morris: Y cariad sy’ wedi para

  • Cyhoeddwyd
Elizabeth a Jan MorrisFfynhonnell y llun, Twm Morys

O'r fyddin i gopa Everest, yn hanesydd, cenedlaetholwraig ac awdures dros 40 o lyfrau, mae Jan Morris wedi byw bywyd hir ac eithriadol. Ac yn ei hymyl ar hyd y daith mae ei chymar, Elizabeth, wedi bod yn bartner ac yn gefn iddi.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod mae ei mab, y llenor a'r cerddor Twm Morys, yn talu teyrnged i'w fam ac i bartneriaeth sy' wedi para dros 70 o flynyddoedd.

Gan fy mod i'n fab iddi, gofynnwyd imi sgrifennu pwt am Jan Morris, yr awdur byd-enwog, ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Bu ei chyfraniad hi i'r byd ers 1972 yn aruthrol, mae'n wir, a does dim ffan mwy na mi!

Ond mae digon o sôn am Jan Morris yr awdur byd-enwog ar y funud, ac ail gyfrol ei dyddiadur myfyrdodau Thinking Again newydd ddod o'r wasg. A go brin y byddai hwnnw na'r un o'r pentwr llyfrau mae hi wedi eu sgrifennu yn ystod ei gyrfa hir wedi digwydd oni bai am ei chymar, fy mam i, Elizabeth.

Mae Elizabeth yn haeddu sylw hefyd ar Ddydd Gŵyl y Menywod.

Yn un peth, mae hi'n fenyw ers dipyn mwy o flynyddoedd na Jan! Ganwyd hi ym 1924 mewn tŷ unllawr helaeth a hardd ym Matugama yn Ceylon (Sri Lanka heddiw), lle'r oedd ei thad yn gweithio i gwmni te a rwber.

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

'Mae eliffantod yn uchel iawn ganddi hyd heddiw'

Rwyf yn cofio chwarae yn blentyn efo hen gistiau mawr oedd wedi dod efo hi i Blighty ac oglau'r te yn dal arnyn nhw. Nid cath na chi oedd ganddi yn anifail anwes, ond eliffant bach; mae eliffantod yn uchel iawn ganddi hyd heddiw.

Cyrri yn llawn ffrwythau roedd yr Aya yn ei wneud iddi, yn null y Tamiliaid, a chyrri felly roedd hi'n ei wneud i ni yn blant.

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Y plant ar y traeth efo'r Aya (Elizabeth ar y chwith)

Yn ddiweddar iawn, mi ddaeth hen albym lluniau i'r fei sy'n datgelu cryn dipyn am y cefndir hwn. Ond bu farw mam Elizabeth pan oedd hi'n blentyn, a gyrrwyd hi i'w magu at fodryb iddi yn Nyfnaint.

Un biwis a diflas iawn oedd honno, mae'n debyg, ac rwy'n cofio Mam yn dweud rywdro ffasiwn ryddhad iddi oedd dyfodiad y rhyfel!

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth yn 4 oed

Mae hi'n biti garw imi beidio holi llawer iawn mwy arni ers talwm cyn iddi fynd yn hud-ar-ddyfed: mae cwmwl dros ei llwybyr erbyn hyn, a lled chwedlonol ydi llawer o'r daith…

Ond tua 1942, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd â'r Wrens a bu'n helpu, yn ôl y chwedl deuluol, i hel gwybodaeth am y llong ryfel fawr, Turpitz, cyn ei suddo gan yr RAF ym 1943. Bu'n dawnsio hefyd efo David Niven.

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth yn 1947

Am sbel ar ôl y rhyfel, a hithau â dawn arbennig fel arlunwraig, bu'n ysgrifenyddes i bensaer. Ond ym 1949 priododd James Morris ac o hynny allan bu'n edrych ar ôl ei chymar lle bynnag yr âi'r gwynt newyddiadurol ag o.

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Y tŷ ar gwch ar y Nîl yng Nghairo

Bu'n cadw tŷ ar gwch ar y Nîl yng Nghairo; mewn hen balas yn Fenis; mewn apartment yn America; mewn hen reithordy ger Rhydychen; mewn bwthyn ym Meirionnydd; mewn plas yn Eifionydd ac mewn tyddyn yn y Mynydd Du.

Lle bynnag y bu hi'n cadw tŷ am ryw hyd, bu'n creu gardd hyfryd hefyd, yn flodau ac yn llysiau ac yn berllan, gan gadw un gornel iddi yn hanner gwyllt ar gais Jan.

Mae ei gardd hi yn Nhrefan yn fwy na hanner gwyllt erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth a'i phlant yn y 1950au

Mi fagodd hi bedwar o blant hefyd. Pan gafodd fy mrawd Henry ei eni, roedd y tad hanner y ffordd i fyny Everest. Roedd y cymar i ffwrdd hefyd tra oedd Elizabeth yn adnewyddu'r tyddyn yn y Mynydd Du yn gartre newydd, a bu yn gofalu amdanaf i a'm chwaer fach Swki am flwyddyn gyfan mewn bỳs Volkswagen yn yr ardd.

Ond roedd hithau o bryd i'w gilydd yn cael mynd i jolihoetio. Mae ei dyddiaduron taith manwl yn ddifyr dros ben, ac ambell waith yn rhoi cip bach go annisgwyl ar gymeriad ei chydymaith, yr awdur byd-enwog!

Ffynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth yn yr ardd yn Nhrefan

Mae'n debyg bod Elizabeth yn gwybod y cwbwl am ofid meddwl ei dyweddi cyn iddyn nhw briodi, ac yn 1972, pan oeddem ni blant yn hŷn, mi aeth James i Gasablanca er mwyn dod yn ôl yn Jan (adeg hynny, doedd dim modd i neb gael triniaeth o'r fath ym Mhrydain a fyntau yn dal yn briod).

Aros wnaeth Elizabeth efo'i chymar yr un fath, ac efo'i gilydd maen nhw byth. Oherwydd bod Elizabeth yn ffasiwn law ar wneud marmalêd ers talwm y cafodd Jan y fath flas ar farmalêd. Oherwydd Elizabeth hefyd, beryg, y daeth hi i'r casgliad mai bod yn ffeind ydi'r rhinwedd fwya' un.

Bu rhai fel Germaine Greer (ac ambell un dipyn yn nes adre) yn ddilornus iawn o'r berthynas chwedlonol hon, yn amau a fu gan Elizabeth fawr o ddewis yn y mater mewn gwirionedd.

Gofynnais iddi heddiw: 'Ai cariad ddaru'ch cadw chi rhag mynd?' Leading question, mi wn, ond daeth yr ateb fel saeth drwy'r cwmwl: 'Wrth gwrs hynny.'

Ffynhonnell y llun, Twm Morys

Hefyd o ddiddordeb