Peilot damwain Emiliano Sala 'heb drwydded ddilys'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala a David Ibbotson wedi i'w hawyren blymio i Fôr Udd ym mis Ionawr 2019

Doedd peilot yr awyren a syrthiodd i'r Sianel gan ladd y pêl-droediwr, Emiliano Sala ddim wedi ei drwyddedu ar gyfer yr hediad, yn ôl adroddiad i'r ddamwain.

Mae adroddiad terfynol y gangen ymchwilio damweiniau awyr (AAIB) yn dweud bod yr awyren wedi dechrau torri yn ddarnau yn yr awyr tra bod y peilot, David Ibbotson, yn brwydro i adennill rheolaeth ohoni.

Mae hefyd yn nodi bod trwydded Mr Ibbotson wedi dod i ben dri mis yn gynharach.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y byddai Emiliano Sala wedi bod yn anymwybodol yn ystod y ddamwain, ar ôl cael ei wenwyno gan nwy carbon monocsid oedd wedi gollwng i gaban yr awyren Piper Malibu.

Mae manylion munudau ola'r hediad o Nantes i Gaerdydd ar noson 21 Ionawr 2019 yn adroddiad terfynol yr AAIB i'r ddamwain.

Fe blymiodd yr awyren filoedd o droedfeddi, gan gyrraedd cyflymder sydd ymhell y tu hwnt i'w gallu strwythurol.

Fe rwygodd adenydd ôl ac ymylon y ddwy adain oddi ar yr awyren wrth i Mr Ibbotson geisio'i hatal rhag plymio i'r môr.

Colli rheolaeth tra'n ceisio osgoi cwmwl

Daeth yr AAIB i'r casgliad bod Mr Ibbotson wedi colli rheolaeth o'r Piper Malibu wrth geisio osgoi hedfan trwy gwmwl a bod y carbon monocsid oedd yn y caban ar y pryd wedi effeithio arno.

Mae'r adroddiad yn datgelu nad oedd gan y gosodwr nwy 59 oed o sir Lincoln drwydded i hedfan yr awyren y noson honno o gwbl.

Roedd ei drwydded ar gyfer y math yma o awyren wedi dod i ben ym mis Tachwedd 2018, felly roedd ei drwydded beilot breifat yn gwbl annilys.

Ffynhonnell y llun, PA/AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren Piper Malibu a oedd yn y ddamwain

Credir bod system awtopeilot yr awyren wedi methu ychydig wedi i Mr Ibbotson ofyn i reolwyr traffig awyr am hawl i ddisgyn yr awyren, gan ei adael yn hedfan yr awyren ar awtopeilot a thrwy olwg yn unig.

Fe arwyddodd Sala, 28, gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd o FC Nantes ar 18 Ionawr ac roedd ar y ffordd i'w sesiwn ymarfer cyntaf gyda'r clwb pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd David Ibbotson wedi ei gludo 'nôl i Nantes yn yr awyren Piper Malibu ar ddydd Sadwrn, 19 Ionawr er mwyn iddo gael cyfle i ffarwelio a'i gyfeillion.

Neges WhatsApp

Anfonodd Emiliano Sala neges sain trwy WhatsApp at ei ffrindiau am 19:10 wrth i'r awyren baratoi i hedfan yn dweud: "Rydw i ar awyren sy'n edrych fel ei bod yn disgyn yn ddarnau," cyn gorffen: "Mae gen i ofn."

Doedd dim blwch du yn yr awyren.

Ond fe lwyddodd archwilwyr greu darlun o symudiadau'r Piper Malibu yn ystod y pedair munud a hanner rhwng sgwrs olaf Mr Ibbotson a'r rheolwr traffig awyr a'r foment y tarodd yr awyren y Sianel - a hynny drwy ddefnyddio tystiolaeth radar a thechnoleg dynwared, a lluniau a fideos o weddillion yr awyren.

Y gred yw bod yr awyren wedi taro'r môr ar gyflymder o ryw 270 milltir yr awr.

Daeth yr archwilwyr i'r casgliad mai'r beipen fwg oedd tarddiad mwyaf tebygol y nwy carbon monocsid, a'i fod wedi gollwng i'r caban trwy system wresogi'r awyren.

Disgrifiad o’r llun,

Yr awyren Piper Malibu ar wely'r môr

"Roedd y patholegydd yn ystyried ei fod bron yn sicr yn hollol anymwybodol yn ystod y gwrthdrawiad," meddai'r adroddiad.

Ond mae'r archwilwyr yn credu bod Mr Ibbotson wedi bod yn ymwybodol ac yn hedfan yr awyren yn ystod eiliadau ola'r daith.

Dangosodd dadansoddiad o ddamweiniau eraill bod carbon monocsid yn gallu cael effeithiau gwahanol iawn ar unigolion, hyd yn oed o fewn yr un caban.

Yn ei sgwrs olaf gyda rheolwyr traffig awyr Jersey am 20:12 GMT, roedd Mr Ibbotson yn "siarad yn glir ar y radio, oedd yn awgrymu os oedd eisoes wedi anadlu carbon monocsid, bod y symptomau ar ochr isaf y raddfa".

Mae adroddiad yr AAIB yn cynnwys nifer o argymhellion i'r cyrff rheoleiddio hedfan, gan gynnwys galwad i osod larymau carbon monocsid ym mhob awyren.

Teulu yn croesawi'r adroddiad

Mewn datganiad mae teulu Emiliano Sala yn dweud eu bod yn ddiolchgar bod yr AAIB wedi cyhoeddi'r adroddiad.

Ond maen nhw'n dweud bod sawl cwestiwn dal heb ei ateb.

"Mae'n hanfodol bod gwybodaeth yr heddlu a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn nawr yn cael ei ryddhau i'r crwner, ac yn eu tro, y teulu," meddai'r datganiad.

"Mae dros flwyddyn ers marwolaeth Emiliano Sala. Mae ei deulu dal yn galaru amdano ond yn benderfynol o ddod o hyd i'r holl wirionedd am sut a pham y bu farw. Dylai'r cwest gael ei gynnal yn ddi-oedi."