'Torcalonnus' gorfod dod â grŵp colli pwysau i ben
- Cyhoeddwyd
Ymhlith y busnesau bach sydd wedi gorfod cau oherwydd coronafeirws mae clybiau colli pwysau ymhob rhan o Gymru.
Mae gan Ffion Hughes un o'r grwpiau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru - mae'n croesawu 500 o aelodau i'w grwpiau Slimming World yn Llanberis a Chaernarfon.
Ond mae ei bywoliaeth, a'i chymuned gymdeithasol ehangach, wedi dod i ben yn ddirybudd.
"Dydd Mawrth, 'naeth head office ddweud 'dim mwy o gyfarfodydd'," meddai.
"Mae'n ofnadwy - heartbreaking. Roeddwn i'n mynd i wneud cyfarfodydd i grwpiau llai - dyna oedd y plan."
'Ddown nhw nôl?'
Ar ôl i'r gorchymyn ddod gan benaethiaid y cwmni, doedd ganddi ddim dewis ond atal pob un o'i chyfarfodydd colli pwysau yn syth.
"Mae'n dychryn fi ein bod ni wedi gorfod cau mor sydyn," meddai Ffion.
"I lot mae 'na ochr gymdeithasol - lot o bobl hŷn - mae'n gymuned."
Mae Ffion yn falch lawn o lwyddiant ei haelodau.
"'Naethon nhw golli 168 stôn ym mis Ionawr!" meddai.
"Mae gen i grwpiau bob dydd Mawrth ac Iau yn Llanberis a Chaernarfon.
"Dwi wedi gweithio yn galed i gael fy aelodau, ond ar ôl hyn, dwi'n dychryn - a ddown nhw nôl?
"Mae'n fusnes, ond mae'n fwy na busnes hefyd - dwi'n mynd i fethu fy aelodau."
'Fyddwn ni nôl fel shot'
Mae Ffion yn gweithio i gwmni Slimming World fel gweithiwr hunangyflogedig, ac mae'r cwmni wedi addo rhoi cymorth iddyn nhw - ond mae'n dal i aros am fanylion ynglŷn â'r cymorth.
"Mae'r cwmni yn trio sortio support package i ni fel consultants. O leia' maen nhw'n trio helpu," meddai.
"Dwi'n teimlo dros bobl eraill self-employed."
Mae Ffion yn bryderus hefyd ynglŷn â sut i dalu'r rhent yn ei chartref, ac wedi ceisio cysylltu â'r landlord.
Ar hyn o bryd mae hi'n ceisio cadw cysylltiad â'i haelodau trwy gyfrwng ffrydio byw ar Facebook, ond mae'n gwneud hyn fel gwasanaeth anffurfiol am ddim.
O ran y dyfodol mae'n barod i ailgydio yn ei gwaith yn syth.
"Fe fyddwn ni nôl fel shot," meddai, unwaith i'r argyfwng coronafeirws ostegu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020