'Siom' cyngor wedi i ddau antelop ddianc o sŵ
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion sŵ yng Ngheredigion wedi apelio am help y cyhoedd i ddod o hyd i ddau antelop sydd wedi dianc o'r safle.
Dihangodd yr antelop lechwe - un gwryw ac un benyw - o Borth Animal Kingdom, Borth, dros nos, yn ôl tudalen Facebook y sŵ.
Dywedodd perchnogion y sŵ eu bod eisoes wedi dod o hyd i'r antelop gwrywaidd, ac roeddynt yn ceisio'i gadw mewn un lle tra bod tîm arbenigol ar y ffordd i'w lonyddu.
Mae galwadau wedi bod yr wythnos hon i gau'r sŵ yn barhaol wedi iddi ddod i'r amlwg bod 20% o'i hanifeiliaid wedi marw o fewn blwyddyn.
Cyrn mawr
Pwysleisiodd y sŵ nad oedd angen i'r cyhoedd ofni'r anifeiliaid.
"Nid yw'r fenyw yn beryglus o gwbl, ond mae gan y gwryw gyrn mawr, ond nid yw'n ymosodol.
"Mi wnawn nhw redeg i ffwrdd oddi wrth bobl, felly cadwch yn bell oddi wrthyn nhw a cysylltwch efo ni fel y gallwn eu cadw mewn un lle nes i'n criw dartio gyrraedd."
Dyma'r ail dro yr wythnos hon i'r sŵ fod yn y newyddion.
Datgelwyd ffigyrau oedd yn dangos bod 57 o'r anifeiliaid - neu 20% - wedi marw yno yn ystod 2018. Roedd yr atyniad hefyd dan y chwydd-wydr pan fu farw dau lyncs yno yn 2017.
Cafodd y sŵ orchymyn gan Gyngor Ceredigion i gau ei hadran anifeiliaid peryglus, am bod angen i aelod o dîm saethu fod ar gael bob dydd rhag i anifail ddianc.
Er iddo gau am gyfnod, roedd yr atyniad wedi ailagor erbyn mis Chwefror, ond oherwydd coronafeirws mae'r lle ar gau unwaith eto.
Mae disgwyl i'r perchnogion ymddangos gerbron llys yn y dyfodol ynglŷn â'r rhybudd i gau.
Yn dilyn y digwyddiad diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae hyn yn newyddion siomedig tu hwnt i'r awdurdod, sydd wedi cyflwyno nifer o hysbysiadau cau i'r sŵ, gan fod yr Awdurdod Lleol wedi colli hyder yng ngallu'r sŵ i weithredu'n gyfrifol ac yn ddiogel.
"Mae gweithredwyr y sŵ wedi apelio yn erbyn y gorchymyn cau cychwynnol, ac rydym yn aros am gadarnhad o wrandawiad llys."
Mae'r elusen hawliau anifeiliaid Freedom for Animals wedi galw am gau'r safle yn barhaol.
Cafodd yr atyniad ei brynu yn 2017 gan Tracy a Dean Tweedy wedi i'r perchnogion blaenorol ymddeol.
Mae'r perchnogion wedi cael cais am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017