'Un o bob pum' anifail sŵ wedi marw mewn blwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Wild Animal Kingdom
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sŵ ar gau ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng coronafeirws

Mae ffigyrau newydd yn datgelu fod 20% o anifeiliaid sŵ yng Ngheredigion, ble bu farw dau lynx yn 2017, wedi marw mewn un flwyddyn.

Yn ôl ateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth, roedd swricatiaid (meerkats), crwbanod, peithoniaid a mwncïod ymhlith y 57 o anifeiliaid a fu farw yn atyniad Wild Animal Kingdom, Borth yn 2018.

Mae'r elusen hawliau anifeiliaid a gyflwynodd y cais am wybodaeth yn galw am gau'r safle yn barhaol.

Mae'r perchnogion wedi cael cais am ymateb.

Cafodd yr atyniad ei brynu yn 2017 gan Tracy a Dean Tweedy wedi i'r perchnogion blaenorol ymddeol.

Ffynhonnell y llun, Borth Wild Animal Kingdom
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid difa Lilleth y lyncs oedd ar ffo am wythnosau ar ôl dianc o'i chawell yn 2017

Ym mis Hydref 2017 aeth lynx Ewrasaidd, Lillieth, ar ffo ar ôl dianc o'i chawell a bu'n rhaid i'r awdurdod lleol drefnu saethwr i'w difa mewn maes carafán cyfagos.

Fe ddaeth i'r amlwg fod lynx Eurasian arall, Nilly, hefyd wedi marw tra bo Lilleth ar goll, ar ôl cael ei mygu wrth gael ei chludo rhwng dwy warchodfa.

Mae ymateb Cyngor Ceredigion i Gais Rhyddid Gwybodaeth gan yr elusen Freedom for Animals yn dangos fod o gwmpas un o bob pum anifail y sŵ wedi marw yn 2018.

O'r 305 oedd yn y sŵ ar ddechrau'r flwyddyn honno, bu farw 57, gan gynnwys:

  • dau o'u pedwar peithon Byrmanaidd;

  • dau o'u naw swricat;

  • pump o'u saith crwban;

  • pedwar marmoset;

  • caiman;

  • pob un o'u saith pry' pric; a

  • phob un o'u pum malwoden Affricanaidd fawr.

'Torri'r rheolau dro ar ôl tro'

Ym mis Ionawr, cafodd y sŵ orchymyn i gau llociau'r anifeiliaid mwyaf peryglus yn dilyn pryderon bod y trefniadau yno yn annigonol petai anifail yn dianc.

Roedd angen i'r busnes fod â thîm drylliau o dri aelod, gydag un ar ddyletswydd bod dydd, ond roedden nhw wedi methu â chynnal yr amodau hynny.

Penderfynodd y perchnogion i gau'r sŵ am gyfnod, ond fe ail-agorodd y safle - ac eithrio lloc y llewod - ym mis Chwefror heb sêl bendith Cyngor Ceredigion.

Mae'r safle ar gau ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.

Dywedodd llefarydd ar ran Freedom for Animals: "Dro ar ôl tro, mae Borth Wild Animal Kingdom wedi methu â chyrraedd gofynion cyfreithiol cadw anifeiliaid gwyllt ac wedi peryglu lles yr anifeiliaid a'r cyhoedd.

"Mae'n bryd cau sŵ Borth yn barhaol", ychwanegodd.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu â Tracy Tweedy gan ofyn am ymateb.