Anifeiliaid yn ôl dan glo ar ôl dianc o Sŵ Borth
- Cyhoeddwyd

Mae'r sŵ wedi bod yn y newyddion am fwy nag un rheswm yr wythnos hon
Mae tri antelop wnaeth ddianc o sŵ yng Ngheredigion wedi cael eu dal a'u dychwelyd i'r safle.
Roedd yr antelop lechwe Affricanaidd - gwryw, benyw ac un ifanc - wedi dianc o Borth Wild Animal Kingdom fore Mercher.
Yn wreiddiol, adroddwyd ar dudalen Facebook y sŵ, mai dau anifail oedd ar ffo, ond cadarnhaodd Cyngor Ceredigion yn ddiweddarach bod tri wedi dianc.
Daeth yr un ifanc yn ei ôl yn fuan ac fe gafodd ei roi yn ôl yn y lloc, ond apeliodd perchnogion yr atyniad am gymorth i ddod o hyd i'r ddau arall.
Llonyddu gyda dart
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae'r antelop gwrywaidd yn cael ei gyfrif fel anifail categori 1 oherwydd hyd ei gyrn, ac felly cafodd ei lonyddu gyda dart a'i ddychwelyd i'r lloc yn hwyr brynhawn ddoe.
"Mae'r antelop benywaidd bellach wedi'i dal ac wedi'i dychwelyd i'r lloc yn ystod yr oriau diwethaf."
Pwysleisiodd y sŵ nad oedd angen i'r cyhoedd ofni'r anifeiliaid.

Antelop yn y gwyllt
Mae galwadau wedi bod yr wythnos hon i gau'r sŵ yn barhaol wedi iddi ddod i'r amlwg bod 57 o'i holl anifeiliaid - neu 20% - wedi marw yno yn ystod 2018.
Roedd yr atyniad hefyd dan y chwyddwydr pan fu farw dau lyncs yno yn 2017.
Cafodd y sŵ orchymyn gan Gyngor Ceredigion i gau ei hadran anifeiliaid peryglus am fod angen i aelod o dîm saethu fod ar gael bob dydd rhag i anifail ddianc.
Er i'r atyniad gau am gyfnod, roedd wedi ailagor erbyn mis Chwefror, ond oherwydd coronafeirws mae'r lle ar gau unwaith eto.
Mae disgwyl i'r perchnogion ymddangos gerbron llys yn y dyfodol ynglŷn â'r rhybudd i gau.
Yn dilyn y digwyddiad diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae hyn yn newyddion siomedig tu hwnt i'r awdurdod, sydd wedi cyflwyno nifer o hysbysiadau cau i'r sŵ, gan fod yr awdurdod lleol wedi colli hyder yng ngallu'r sŵ i weithredu'n gyfrifol ac yn ddiogel.
"Mae gweithredwyr y sŵ wedi apelio yn erbyn y gorchymyn cau cychwynnol, ac rydym yn aros am gadarnhad o wrandawiad llys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2020