Stadiwm Principality i fod yn ysbyty dros dro

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyhoeddi eu bod wedi trefnu i gael defnyddio Stadiwm Principality fel ysbyty dros dro er mwyn taclo coronafeirws.

Dywedodd y bwrdd eu bod wedi bod yn gwneud paratoadau ar sail rhagolygon o faint o gleifion y byddai angen eu trin, gan amrywio o'r senario gwaethaf i'r gorau.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r bwrdd wneud trefniadau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty'r Brifysgol Llandochau.

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr y bwrdd, Len Richards: "Mae'n anodd o edrych ar y ffigyrau i werthfawrogi maint y dasg sy'n ein hwynebu yn y Gwasanaeth Iechyd.

"Ond rydym wedi bod yn defnyddio'r wythnosau diwethaf yn ddoeth er mwyn gosod strwythurau a gweithdrefnau mewn lle ar draws ein hysbytai.

"Yn ogystal rydym wedi dod i gytundeb i ddefnyddio Stadiwm Principality fel ysbyty dros dro gyda lle i 2,000 o welyau ychwanegol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Len Richards ei fod yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi pryder

Ychwanegodd ei fod yn deall y pryder y gallai hyn achosi, nid yn unig yn y gymuned ond ymysg staff hefyd, ond ei fod yn "gobeithio na fyddai'n rhaid defnyddio'r holl gapasiti, ond mae'n well cael cynlluniau wedi'u datblygu ar sail cyngor arbenigol".

"Mae clinigwyr a rheolwyr yn gweithio gyda thîm y stadiwm i greu adnodd ar frys.

"Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau gyda thimau'n addasu cartref rygbi Cymru i fod yn ysyty dros dro - tasg sylweddol o ystyried amseru'r feirws," meddai.

'Braint' i gael cynorthwyo

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae'r byrddau iechyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau angenrheidiol ar gyfer coronafeirws, ac mae hynny'n cynnwys paratoi ar gyfer y senario gwaethaf posib.

"Rwyf wedi clustnodi £8m o arian cyfalaf i Caerdydd a'r Fro i gynorthwyo gyda'r cynllunio yna ar gyfer gwelyau ysbyty a chymunedol."

Dywedodd Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, perchnogion y stadiwm: "Rydym wedi rhoi Stadiwm Principality i gyd at ddefnydd y GIG gan gynnwys ardaloedd lletygarwch ac ystyd eang o ystafelloedd ac adnoddau eraill.

"Mae'n fraint i ni fedru cynnig ein gwasanaethau, adnoddau a staff i gynorthwyo yn y cyfnod hwn o argyfwng cenedlaethol, ac rydym wedi gwneud cynlluniau i drawsnewid gwagleoedd perthnasol i fod yn adnoddau ysbyty gweithredol."