Oedfa a gŵyl rithiol i gadw cwmni tra'n ynysu
- Cyhoeddwyd
Am yr wythnosau nesaf bydd rhaglenni ychwanegol o Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar foreau Sul ar S4C.
Bydd S4C yn darlledu'r oedfa er mwyn "cyflwyno myfyrdod, gweddi a chân" i'r rhai sy'n methu mynychu'r Capel neu'r Eglwys oherwydd yr haint Coronafeirws.
Bydd Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol dan ofal Parchedig John Gwilym Jones am 11:00 gyda'r emynau'n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C Owen Evans: "Mae gan S4C ran allweddol i chwarae ym mywydau pobl Cymru dros y misoedd nesaf.
"Bydd ein gwasanaethau newyddion ar flaen y gad yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i'n gwylwyr.
"Yn ogystal â hynny rydym yn gobeithio bydd ein sianel yn medru cynnig cysur a chwmni i'n gwylwyr yn ystod y misoedd anodd sydd i ddod."
Fe gadarnhaodd y sianel y byddan nhw hefyd yn ymateb i geisiadau am raglenni a gafodd eu cyflwyno iddyn nhw gan wylwyr yn ystod sesiwn holi ac ateb ar wefan Facebook yn ddiweddar.
Ar Radio Cymru, yn ogystal â'r Munud i Feddwl arferol yn y bore bydd gair o fyfyrdod ddwywaith yr wythnos yn ystod rhaglen Bore Cothi gan weinidogion ar draws Cymru.
Yn ogystal bydd yr oedfa ar ddydd Sul ar Radio Cymru yn ceisio helpu pobl i wynebu pryder ac unigrwydd y cyfnod gwahanol yma a bydd Bwrw Golwg yn dod â'r newyddion diweddaraf ac yn trafod materion moesol sy'n deillio yn sgil yr haint.
Ar ôl sylwi bod calendr y gigs a fyddai'n cael eu cynnal ledled Cymru wedi crebachu dros y mis diwethaf mae hyrwyddwyr 'Y Selar' wedi trefnu cyfres o gigs i gael eu cynnal drwy dydd Sul.
Bydd amryw o artistiaid yn perfformio ar yr awr, bob awr gan ddechrau gyda Y Cledrau am 11:00 fore Sul ymlaen.
Yr artistiaid eraill fydd yn cymryd rhan rhwng 11:00 a 23:00 fydd Sera, Gwen Mairi, Roughion, Ynys, She's Got Spies, Al Lewis, Elis Derby, Dienw, Dafydd Hedd, Bwca, Tegid Rhys ac Ifan Pritchard/Gwilym.
"Roedden ni wedi sylwi bod nifer o artistiaid a labeli recordio yn annog ei gilydd i rannu fideos, a rhai yn gwneud gigs bach dros Facebook," meddai Owain Schiavone, trefnydd Y Selar, "ac o'dd e'n amlwg ei fod yn dod a llawer o hapusrwydd i wylwyr."
"Da ni wedi gwneud Facebook live yn y gorffennol wrth gyhoeddi enwebiadau Gwobrau'r Selar, felly roedden ni'n gwybod bod modd cyrraedd cynulleidfaoedd fel 'na", meddai.
"Mae'n caniatáu rhyw fath o normalrwydd i bawb hefyd yng nghanol yr helynt yma i gyd, ac mae'n rhoi cyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol gan fod gwaith cymaint o'r artistiaid 'di sychu i fyny.
Bydd modd i bobl wylio'r gigs drwy ddilyn tudalen Cylchgrawn Y Selar ar Facebook, neu ddilyn linc o'u cyfrifon cymdeithasol eraill.
Bydd cyfle i bobl wneud cyfraniad yn uniongyrchol i'r artistiaid drwy ddilyn linc ar y dudalen hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020