Be' sy' ar y bocs?
- Cyhoeddwyd
Dydi'r Pasg ddim cweit yr un fath eleni, a chyda'r posibilrwydd bod rhaid inni aros adref am wythnosau eto i ddod, pa raglenni Cymraeg newydd allwn ni edrych ymlaen atyn nhw ar y teledu i'n cadw'n ddiddan ?
O Carol Vorderman yn dysgu Cymraeg i Ioan Gruffudd fel llais Iesu Grist a chyn brifweinidog yn dysgu bod yn ffermwr, dyma i chi ganllaw mewn tair rhan i'r cyfresi newydd sydd ar S4C; y rhai sydd ar y gweill; a'r rhai o'r archif sydd i'w canfod ar dudalennau Bocs Set S4C Clic, dolen allanol.
Cyfresi newydd:
Ffit Cymru, wedi dechrau nos Fawrth, 7 Ebrill
Oherwydd y canllawiau i aros adref a chadw pellter o'n gilydd, mae'r gyfres newydd o Ffit Cymru yn wahanol iawn i'r arfer. Mae'r cyflwynydd Lisa Gwilym, a'r arbenigwyr sy'n rhoi cyngor ffitrwydd a iechyd, yn gorfod cysylltu dros fideo gyda'r pump unigolion sy'n ceisio trawsnewid eu bywydau a byw'n iach.
Bydd pawb sydd adre yn gallu manteisio ar y cyngor am ffitrwydd, bwyd a iechyd meddwl yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Fferm Ffactor Selebs, wedi dechrau nos Sadwrn, 11 Ebrill
Mae'r rhain yn ddyddiau rhyfedd - pwy fuasai'n meddwl y byddai cyn brifweinidog yn cystadlu am deitl Fferm Ffactor?
Mae Carwyn Jones yn aelod o un tîm sy'n ceisio ennill y teitl drwy geisio cyflawni tasgau amaethyddol gyda'r cyflwynwyr Owain Williams a Mari Lovgreen. Ac ar y tîm arall mae'r cerddor Brychan Llŷr, y cyflwynydd Elinor Jones a'r cyn gystadleuydd X Factor, Lloyd Macey.
Gwely a Brecwast Maggi Noggi, wedi dechrau nos Fercher, 8 Ebrill
Dyma gyfres sy'n dilyn y cymeriad brenhines drag Maggi Noggi wrth iddi ddechrau busnes Gwely a Brecwast - er efallai y byddai busnes newydd Maggi yn dioddef yn sgil y cyfyngiadau corinafeirws diweddaraf...
Aloma (heb Tony) ydy un o'r gwesteion cyntaf i Fferam Noggi ar Ynys Môn.
Hyd y Pwrs, wedi dechrau nos Sadwrn 11 Ebrill
Mwy o ysgafnder gyda'r comedïwr Iwan John a'i ffrindiau - fe fyddan nhw'n gwneud hwyl am ben pawb, gan gynnwys S4C.
Gallwch ddal i fyny gyda cyfresi cyfredol eraill poblogaidd y sianel ar Clic, dolen allanol a BBC Iplayer,
I ddod:
Iaith ar Daith, dechrau ar 19 Ebrill
Carol Vordeman ac Adrian Chiles yn sylwebu yn Gymraeg? Ruth Jones - Nessa o Gavin a Stacey - ar Pobol y Cwm?
I ddod wedi'r Pasg mae rhaglen yn dilyn pum seleb wrth iddyn nhw fynd ar daith i ddysgu Cymraeg gyda'u mentor. Hefyd yn cymryd rhan mae'r athletwr Colin Jackson a'r cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell a chawn glywed beth yw rheswm bob un dros ddysgu'r iaith.
35 Diwrnod, dechrau ar 26 Ebrill
Y ddiweddaraf yn y gyfres ddrama sy'n dilyn stori wahanol dros gyfnod o 35 diwrnod a 35 awr ac un newydd i'r slot ddrama ar nos Sul.
Yn y gyfres yma mae corff wedi ei ganfod yn arnofio yn y môr, wedi ei wisgo yn barod am briodas. 35 niwrnod ynghynt, mae Beth y ddarpar briodferch yn cael hwyl gyda'i morwynion priodas a'i ffrindiau oes wrth baratoi am ei diwrnod mawr, ond mae cymylau duon yn bygwth ei hapusrwydd: ymddygiad amheus ei darpar-ŵr Dylan a chenfigen ei brawd anhapus, Owen.
Cwpwrdd Epic Chris, dechrau ar 29 Ebrill
Gyda'r byd a'r betws ar y cyfrygau cymdeithasol yn rhoi argymhellion am beth i'w wneud gyda chynhwysion ein cypyrddau yn nghyfnod cyfyngiadau'r coronafeirws, mae'r cogydd Chris Roberts yn ymuno yn y wledd gyda chyfres goginio newydd ar 29 Ebrill.
Mae Chris 'Flamebaster' yn addo coginio bwyd "epic" gydag eitemau ddowch chi o hyd iddyn nhw yn eich cwpwrdd.
Yn y Bocs Set:
Gŵr y Gwyrthiau
Yn arbennig ar gyfer y Pasg mae'r ffilm animeiddiedig yma o 1999 wedi ei chyhoeddi ar Clic gyda Ioan Gruffudd fel llais Iesu Grist. Mae Gŵr y Gwyrthiau yn dweud stori'r Iesu a'r Pasg Cristnogol.
Jabas
Mae gan nifer ohonon ni fwy o amser i fwynhau nostalgia ar y funud felly beth am atgoffa ein hunain o steils gwallt a ffasiwn yr wythdegau? Os oeddech chi'n gwylio S4C yn y dyddiau cynnar, fe fyddwch yn cofio Jabas, un o ddramâu mwyaf poblogaidd S4C yn y cyfnod, gydag Owain Gwilym yn actio rhan y bachgen ysgol ym Mhen Llŷn.
Mae dwy gyfres o Jabas ar gael ar y Bocs Set.
Amdani
I'r rhai sy'n colli chwaraeon ar y funud, mae dwy gyfres o Amdani!, sy'n adrodd hanes tîm rygbi merched sy'n seiliedig ar nofel gan Bethan Gwanas, eisoes ar gael ac mae mwy i ddilyn yn y misoedd nesaf meddai S4C.
Martha Jac a Sianco
Nid ffilm sy'n codi calon ond un sy'n rhoi darlun trist o fywyd cefn gwlad sydd mwy neu lai wedi diflannu. Mae'n seiliedig ar nofel Caryl Lewis sydd bellach yn cael ei hystyried yn glasur. Cawn hanes chwaer a dau frawd sy'n byw gyda'i gilydd ar fferm yng ngorllewin Cymru wrth iddyn nhw geisio dod i delerau gyda newidiadau yn eu bywydau wedi marwolaeth eu mam.
Cafodd ei darlledu yn wreiddiol ar ddiwrnod Nadolig 2009.
Bang
Os ydych chi wedi methu'r gyfres ddrama drosedd Bang sydd wedi ei lleoli ym Mhort Talbot, mae cyfle i chi ddal i fyny gyda'r holl gyfres ar y Bocs Set.
Mae'r gyfres bresennol, sef yr ail, yn dod i ben fis Ebrill ond bydd ar gael ar y Bocs Set am dipyn eto.
Teulu, cyfres 2 a 3
Os ydych chi eisiau cael eich dannedd mewn i gyfres arall o'r gorffennol, mae cyfres gyntaf Teulu ar gael rŵan a bydd yr ail a'r drydedd cyfres yn cael ei hychwanegu maes o law.
Mae mwy o hen ffefrynnau eraill o'r archif i'w gweld yn y Bocs Set hefyd: Bacha Hi O 'Ma sy'n rhoi sgôp i chi dreulio'ch amser sbâr newydd yn chwilio am hen gystadleuwyr y rhaglen ddêtio ar y cyfryngau cymdeithasol; Byd Pws yn rhoi cyfle i chi deithio'r byd heb symud o gartref a Fideo 9 sy'n dalp o hanes cerddorol Cymru mewn cyfnod gwahanol iawn. Mae ganddoch chi hefyd rai wythnosau i ddal fyny efo un bennod o C'Mon Midffild.
Hefyd o ddiddordeb: