Galw am gyflog cyfartal i weithwyr gofal

  • Cyhoeddwyd
gofal

Dylai gweithwyr gofal yng Nghymru dderbyn yr un tâl ac amodau â gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am "roi eu bywydau yn y fantol" yn ystod argyfwng Covid-19, yn ôl Plaid Cymru.

Mae'r blaid hefyd yn galw am gynnydd yng nghyflogau gweithwyr y gwasanaeth iechyd, gyda "chynnydd mewn termau real i bawb".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gweithwyr gofal yn derbyn "cydnabyddiaeth" am eu gwaith ar y rheng flaen.

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi cynnydd o 3.3% yng nghyflog staff gofal cymdeithasol, fydd yn cael ei ôl-dalu o ddechrau Ebrill eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n edrych ar "bob opsiwn posib" er mwyn cefnogi gweithwyr gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Dodds yn galw am yr un gydnabyddiaeth yng Nghymru ag sydd yn yr Alban

Yn ôl llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, dylai fod "cydraddoldeb o ran tâl ac amodau" rhwng gweithwyr iechyd a gofal.

"Byddai hyn yn golygu cynnydd mewn tâl i'r mwyafrif o weithwyr gofal cymdeithasol, yn ogystal â dod a chytundebau dim oriau ac oriau anwadal i ben.

"Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi eu bywydau yn y fantol drosom ni yn ystod y creisis hwn.

"Y peth lleia' y gallwn ni ei wneud yw dangos ein bod ni'n eu gwerthfawrogi nhw trwy roi mynediad i brofion ac offer gwarchod addas iddyn nhw, a chodi eu hamodau gwaith a thâl.

"Dwi'n gobeithio mai'r peth cadarnhaol a ddaw allan o'r hunllef hon yw ein bod ni'n cofio gymaint yr ydyn ni'n trysori ein gwasanaethau iechyd a gofal, ond hefyd ein bod ni'n sylweddol bod yn rhaid i ni dalu amdanyn nhw yn iawn.

"Os ydyn ni eisiau gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy, mae'n rhaid i ni dalu amdano."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yr Alban.

"Yr wythnos ddiwetha' fe gyhoeddodd Llywodraeth yr Alban gynnydd o 3.3% i bob gweithiwr gofal, gan sicrhau bod pob un sy'n gweithio yn y diwydiant gofal yn cael tâl byw. Rydw i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn gwneud hyn.

"Mae'n rhaid i weinidogion symud yn sydyn er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal fan hyn yng Nghymru yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu, ond hefyd yr offer gwarchod a'r gefnogaeth iechyd meddwl sydd ei angen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein sector gofal cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf bregus yng Nghymru, tra'n gweithio law yn llaw â'r gwasanaeth iechyd.

"Rydyn ni'n ystyried sut fyddai orau i gefnogi gweithwyr ymroddedig gofal cymdeithasol Cymru, gan edrych ar bob opsiwn posib dan yr amgylchiadau heriol presennol."