Dirwyn ymchwiliad diswyddo Carl Sargeant i ben
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymchwiliad annibynnol i'r amgylchiadau o ddiswyddo'r diweddar Carl Sargeant o'r llywodraeth wedi dirwyn i ben.
Roedd yr ymchwiliad dan ofal y bargyfreithiwr Paul Bowen QC yn edrych ar sut y gwnaeth Carwyn Jones, oedd yn brif weinidog Cymru pan gafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo ym mis Tachwedd 2017, wedi ymdrin â'r broses diswyddo.
Ni fydd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen yn dilyn trafodaethau, ac fe fydd Llywodraeth Cymru'n talu costau cyfreithiol teulu Mr Sargeant.
Cafwyd hyd i Mr Sargeant, oedd yn Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy, yn farw bedwar diwrnod ar ôl iddo golli ei swydd yn y cabinet. Roedd wedi wynebu honiadau o ymddwyn yn amhriodol tuag at fenywod.
Mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
"Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 11 Gorffennaf y llynedd, yn dilyn casgliad Cwest y Crwner i farwolaeth drasig Carl Sargeant, dywedais wrth yr Aelodau fy mod yn credu y byddai'n briodol inni gael cyfnod o adlewyrchu, ac y byddwn innau hefyd yn asesu pa gamau y dylid eu cymryd, mewn ymgynghoriad â'r teulu Sargeant ac eraill perthnasol.
"Estynnais wahoddiad i Gadeirydd ACAS Syr Brendan Barber, gan weithredu mewn rhinwedd bersonol, i siarad â'r bobl berthnasol i weld a fyddai'n bosibl dod o hyd i gytundeb ynglŷn â'r ffordd ymlaen.
"O ganlyniad i'w drafodaethau, mae Syr Brendan wedi gwneud dau argymhelliad imi. Y cyntaf yw na ddylai'r Ymchwiliad Annibynnol fynd rhagddo, a'r ail yw y dylai Llywodraeth Cymru dalu'r costau cyfreithiol rhesymol sydd gan y teulu Sargeant yn weddill.
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Rwyf wedi penderfynu derbyn a gweithredu'r ddau argymhelliad... Rwy'n gwybod y bydd pawb a fu'n rhan o hyn yn awr yn rhannu'r dymuniad i ddod â'r trin a thrafod cyhoeddus ynglŷn â marwolaeth drasig Carl i ben, gan alluogi pob un ohonom i'w gofio fel gŵr, tad, cydweithiwr a chyfaill gwerthfawr."
Ymateb y teulu
Mewn datganiad, dywedodd teulu Carl Sargeant: "Fe hoffem ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw, i Llywodraeth Cymru am y cyfraniad tuag at ein costau cyfreithiol, ac i Syr Brendan Barber am ei waith o gyfamodi yn y broses hon.
"Fel teulu rydym wedi dod i sylweddoli y byddai'r broses ymchwilio yn annhebygol o roi'r atebion yr ydym yn chwilio amdanyn nhw. Felly digon yw digon. Rhaid i ni dynnu llinell o dan bopeth a gadael i'n proses o alaru ddechrau.
"Mae dwy flynedd a hanner boenus wedi mynd heibio ers marwolaeth Carl, ond hyd yn oed yn ystod y cyfnod gwaethaf rydym wedi derbyn cefnogaeth gan lawer o bobl. Hoffem ddiolch i gadeirydd yr ymchwiliad Paul Bowen am ei waith."
Wrth ddiolch i'w cyfreithwyr, gorffennodd teulu Mr Sargeant gyda'r hyn yr oedd yn hoff o ddweud yn gyson: "Edrych ar ôl ein gilydd".
'Amser trawmatig'
Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones:
"Mae wedi bod yn amser trawmatig i bawb, yn enwedig y teulu. Gyda unrhyw drasiedi o'r math yma, fe fydd llawer o gwestiynau na fydd atebion iddyn nhw, ond rwyf yn falch fod ganddyn nhw nawr gyfle i symud ymlaen gystal ag y gallent.
"Fe hoffwn ddiolch i'r holl rai sydd wedi cynnig cefnogaeth i bawb oedd yn rhan o hyn, yn enwedig fy nghydweithwyr yn y Cynulliad, ac fe hoffwn hefyd ddiolch i fy nheulu am eu cefnogaeth mewn cyfnod tywyll."
Ychwanegodd: "Rwyf hefyd am gydnabod cyfraniad y prif weinidog oedd yn gyfrifol am sefydlu'r broses gymodi, ac i Syr Brendan Barber am ei sgiliau fel cyfamodwr. O'i achos ef rydym wedi cyrraedd canlyniad teg."
Anfodlonrwydd
Wrth ymateb i'r newyddion fod yr ymchwiliad wedi dirwyn i ben dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad:
"Mae'r ymchwiliad wedi mynd ymlaen am dros ddwy flynedd ac nid yw teulu, ffrindiau a chydweithwyr Carl unrhyw agosach at wybod y gwir am yr amgylchiadau a'r digwyddiadau arweiniodd at ei farwolaeth.
"Tra rwyf yn llawn barchu'r cytundeb rhwng y prif weinidog a theulu'r Sargeants mae'n amlwg fod llawer o gwestiynau'n parhau heb eu hateb ac mae mwy o wybodaeth a ddylai fod wedi bod ar gael iddyn nhw ag i aelodau'r Cynulliad i graffu arno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd13 Medi 2019