Pobl Porthmadog yn mynd ati i gefnogi ei gilydd

  • Cyhoeddwyd
Sian Cowper, Siop lyfrau Browsers
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sian Cowper yn ofni na fyddai modd ailgydio ym musnes siop lyfrau Browsers wedi'r cyfyngiadau

Dros fis ers i Lywodraeth Prydain gyflwyno mesurau i gyfyngu ar symudiadau pobl mae cymunedau ar draws Cymru yn dal i geisio dod i'r arfer â'r drefn newydd.

Gyda nifer yn teimlo'n ansicr am y dyfodol mae cymunedau fel Porthmadog wedi dangos bod modd byw dan y cyfyngiadau newydd a pharhau i helpu eraill.

Mae Sian Cowper a'i theulu wedi gwerthu llyfrau ar Stryd Fawr Porthmadog ers degawdau.

Pan gyhoeddodd Boris Johnson orchymyn i siopau gau fis yn ôl, roedd Sian yn ofni mai dyma fyddai diwedd oes siop lyfrau Browsers.

Tynnu popeth a chau'r siop

Ar y noson y cyhoeddodd Mr Johnson y cyfyngiadau fe aeth i'r siop gan dynnu'r llyfrau o'r ffenestri.

"Fe wnes i dynnu pob dim allan a chau'r siop i lawr yn gyfan gwbl yn meddwl 'swn i ddim yn dod 'nôl," meddai.

"'Da ni'n fusnes teulu ac wedi bod ar y stryd fawr ers 45 o flynyddoedd ac ar y pryd roeddwn i'n meddwl 'this is it, dyma orffeniad busnes ni'."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig wedi gorfodi perchnogion siop Browsers i addasu

Ond erbyn hyn mae Sian wedi datblygu ffordd wahanol o werthu rhai llyfrau a nwyddau, ac mae hefyd wedi dechrau cynllun newydd i helpu'r gymuned.

"Roeddwn i wedi synnu ar y fath straeon o'n i'n clywed am bobl heb ddigon o fwyd yn eu cypyrddau a phlant adra heb ddim i gadw nhw'n ddistaw i'r rhieni. Ac o'n i'n meddwl 'dwi isho neud rhywbeth'."

Fe welodd Sian gyfle a bellach mae hi'n gosod bagiau llawn nwyddau a llyfrau ar stepen drws y siop i deuluoedd eu cael am ddim.

Mae hi hefyd yn eu cludo i dai pobl leol.

"Dydyn nhw ddim yn fagiau sy'n newid bywydau neb ond os ydi o'n codi calon rhywun ac yn golygu bod mam a dad yn gallu cael paned tawel - dyna dwi isho neud".

Disgrifiad o’r llun,

Branwen a Jeremy Davies

Un enghraifft ymhlith nifer yw stori Sian, ac i lawr y lôn ym Mhorth-y-Gest mae 'na gynlluniau tebyg ar waith sydd hefyd yn dod â'r gymuned at ei gilydd.

Mae Branwen a Jeremy Davies wedi dechrau grwpiau ar-lein i sicrhau fod henoed y gymuned yn gallu cyfathrebu ar ffonau clyfar, yn ogystal â dechrau cludo presgripsiynau.

"Tynnu at ein gilydd oedd o gyntaf - pobl yn gweld yr argyfwng a wnaethom ni ffeindio allan pawb oedd yn byw yn y tai a chael eu rhifau," meddai Jeremy.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn creu bandiau i ddal mygydau'n sownd am bennau gweithwyr iechyd

Un fenter sydd wedi profi'n llwyddiant ysgubol yw creu bandiau i ddal mygydau yn sownd ar gefn pennau gweithwyr iechyd.

Gan ddilyn esiampl ffrind, aeth Branwen ati i greu degau ar y cyd â grŵp o bobl leol.

"Mae'r masgiau maen nhw'n gwisgo yn brifo tu ôl i'r clustiau," meddai.

"Fe welsom ni bod 'na gymaint o alw amdanyn nhw ddaru ni gael y grŵp cerdded - a nathon ni droi yn grŵp crefftau!"

Wrth ynysu mae Branwen, Jeremy ac aelodau eraill o'r gymuned hefyd wedi creu sachau i weithwyr iechyd eu defnyddio i ddal dillad gwaith budr.

Maen nhw hefyd wrthi'n casglu gwaith celf plant yr ardal leol i'w harddangos pan ddaw'r cyfyngiadau i ben.

Mae 'na dal bryder ac ansicrwydd hyd a lled Cymru, ond y neges syml sydd i'w gweld ar strydoedd Porthmadog yw "ewch ati i gefnogi eich gilydd".