Covid-19: Canslo Sesiwn Fawr Dolgellau am eleni
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chynnal eleni oherwydd y pandemig coronafeirws.
Roedd yr ŵyl i fod i gael ei chynnal rhwng 17 a 19 Gorffennaf.
Dywedodd y trefnwyr mewn datganiad: "Ar ôl wythnosau o fonitro a thrafod, rydym ni fel pwyllgor wedi penderfynu canslo Sesiwn Fawr Dolgellau 2020.
"Rydym yn hynod siomedig ein bod yn canslo, ond mae iechyd a diogelwch ein cynulleidfa, yr holl artistiaid a chymuned Dolgellau yn bwysicach."
'Sesiwn FAWR yn 2021'
Ychwanegodd y trefnwyr: "Roedd gennym ni glincar o lein yp ar eich cyfer, ac rydym yn mawr obeithio y byddwn yn gallu gwahodd nifer fawr o'r artistiaid yn ôl ar gyfer yr ŵyl yn 2021.
"I'r rheiny sydd eisoes wedi archebu tocynnau, mae croeso i chi dderbyn ad-daliad neu eu defnyddio ar gyfer Sesiwn Fawr Dolgellau, 16-18 Gorffennaf 2021."
Doedd y trefnwyr ddim wedi cyhoeddi rhestr yr artistiaid ar gyfer yr ŵyl, ond dros y blynyddoedd mae enwau mawr ymhlith perfformwyr Cymru a thu hwnt wedi ymddangos ar lwyfan yr ŵyl.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Bydd mwy o fanylion am sut i gael ad-daliad i'r rhai sy'n dymuno hynny yn ymddangos ar wefan y Sesiwn Fawr, dolen allanol a'r cyfryngau cymdeithasol cyn hir.
Roedd y datganiad yn gorffen gyda gair o ddiolch: "Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth - cadwch yn saff ac edrychwn ymlaen am Sesiwn FAWR yn 2021."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2017