Clod gan y canwr Paul Simon i fideo teyrnged i staff GIG

  • Cyhoeddwyd
Fideo Ysbyty EnfysFfynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Mae fideo o gôr rhithiol arbennig, sy'n cynnwys staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi derbyn canmoliaeth mawr yr holl ffordd o America.

Yn y fideo mae nifer o staff y GIG yn canu'r gân enwog Bridge Over Troubled Water ochr-yn-ochr â chantorion lleol a phroffesiynol fel teyrnged i staff yr ysbyty maes newydd, Ysbyty Enfys, sydd wedi ei adeiladu yn Venue Cymru, Llandudno.

Ac mae'r cantorion wedi derbyn y clod mwyaf un, sef canmoliaeth neb llai na chyfansoddwr y gân, Paul Simon.

Rhannodd y cerddor y fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, ac o ganlyniad mae wedi cael ei wylio dros 100 mil o weithiau mewn llai na 24 awr.

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi fideo facebook gan Paul Simon

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd fideo facebook gan Paul Simon

"Fedra i ddim coelio fo"

Anwen Jones, ysgrifennydd côr Canu Conwy - côr gweithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - oedd un o gydlynwyr y prosiect. Roedd hi wedi cael cais i roi cân at ei gilydd gyda'i chyd-aelodau i'w rhoi ar y grŵp Facebook Côr-Ona, dolen allanol. Trodd at y cerddor lleol Manon Llwyd am help, a'i hymateb hi oedd 'allwn ni 'neud hyn yn briliant!'.

Gyda help Manon a'i gŵr, mae fideo wedi cael ei gynhyrchu sy'n cynnwys staff y GIG, aelodau'r côr, a'r cantorion proffesiynol Rhys Meirion, Bryn Fôn ac Idris Morris Jones, sydd hefyd wedi rhoi help llaw. Mae hyd yn oed yr actorion Matthew Rhys a Rhys Ifans yn ymddangos ar ddechrau'r fideo i ddatgan eu cefnogaeth i'r GIG.

Ond, fel yr eglurodd Anwen, mae'r holl sylw mae neges Paul Simon wedi ei achosi wedi dod fel cryn sioc, yn enwedig oherwydd nad oedden nhw'n bwriadu cyhoeddi'r fideo tan 14 Mai:

"'Nath Manon anfon y fideo at PA Paul Simon, er cwrteisi, i ddangos be' oedden ni wedi ei 'neud - yn meddwl 'sa fo ond yn cyrraedd y PA. A 'nathon ni ddeffro heddiw, ac o'dd o wedi mynd yn feiral!

"'Nath o anfon neges lyfli, yn dweud gymaint oedd o wedi ei fwynhau o. Fedra i ddim coelio fo rili - meddyliwch faint o fersiynau o'r gân mae pobl yn ei anfon ato fo drwy'r adeg."

Ac er fod sylw y canwr byd-enwog wedi golygu fod trefniadau wedi gorfof newid ychydig, fel ddywedodd Anwen, maen nhw wedi penderfynu "just go with it'! Alli di'm cael dim byd gwell na'r person 'nath sgwennu'r gân ei hun yn ei rannu o, na alli!"

Er ei bod hi wedi poeni ar y dechrau fod rhoi côr rhithiol fel yma am olygu llawer o waith, mae popeth wedi talu ar ei ganfed, yn enwedig gan fod Anwen wedi cael canu gyda rhywun go arbennig...

"Nes i gais i Manon i'n rhoi fi drws nesa' i Bryn Fôn tuag at ddiwedd y fideo, felly alla i ddeud mod i wedi canu efo Bryn Fôn!"

Ffynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Welwch chi Elin drws nesa' i Bryn Fôn?!

"Edmygedd enfawr i bawb sydd allan yn gweithio"

Unawdwyr arbennig iawn sydd yn dechrau'r gân yn y fideo, gan eu bod oll yn gweithio i'r GIG. Un o'r rheiny yw Elin Mai Williams, sydd yn nyrs uned brys, ac mae hi wedi gwirioni ar yr holl sylw mae'r fideo wedi ei gael:

"O'dd 'na rywun wedi'n tagio fi yn y fideo 'ma gan "Paul Simon". Wel dwi'm yn 'nabod neb o'r enw Paul Simon...

"O'n i'n ei wylio fo ac yn meddwl 'no wê ma'n fideo ni ydi hwn'. Ac o'dd Jools Holland arno fo, a Rhys Ifans...

"O mam bach! Dwi'n canu ar y fideo 'ma, a ma' Paul Simon 'di rannu o! Mae o 'di ngweld i'n canu! Dwi'n ffan mawr o Simon & Garfunkel, a wedi cael fy nwyn i fyny efo'i ganeuon o. Mae o 'di mynd yn hollol wyllt."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Elin Mai Williams

Er ei bod hi wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio gyda chleifion sy'n diodde' o coronafeirws am y tro, oherwydd fod ganddi asthma gwael, roedd Elin mor falch o allu cymryd rhan yn y fideo, i dalu teyrnged i waith ei chydweithwyr:

"Mae gen i edmygedd enfawr i bawb sydd allan yn gweithio, ac yn rhoi eu bywydau mewn risg. Dwi'n falch fod pobl yn dechrau sylwi beth ydi'n gwaith ni, a be' 'dan ni'n 'neud o ddydd i ddydd.

"Dwi'n coelio'n gry' fod pawb sydd ar y llinell flaen angen rhyw fath o gydnabyddiaeth am be' ma' nhw'n ei 'neud yr adeg yma - a dim jyst yr adeg yma - bob dydd, trwy'r flwyddyn.

"Felly mae hyn jyst yn anfarwol, fod cydnabyddiaeth fel hyn yn cael ei roi.

"Mae o jyst yn ffantastig. Mae o wedi rhoi gwên ar fy wyneb i."